1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd i blant, ac yn gofrestredig (neu wedi bod yn gofrestredig) mewn perthynas â hynny;
mae i “gofal dydd i blant” (“day care for children”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 19(3) o Fesur 2010;
mae i “gwarchod plant” (“child minding”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 19(2) o Fesur 2010;
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparwr gofal dydd i blant o dan Ran 2 o Fesur 2010;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn.
2.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi”) drefnu arolygiadau o—
(a)gwarchod plant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig; a
(b)gofal dydd i blant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru neu Brif Arolygydd Ei Mawrhydi yn arolygu unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd i blant, rhaid iddynt—
(a)adrodd mewn ysgrifen ar y materion a arolygir;
(b)anfon copi o'r adroddiad at y person cofrestredig; ac
(c)yn achos adroddiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi gyhoeddi adroddiad ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i ddarparu gofal dydd i blant.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi ddarparu copi o adroddiad, neu rannau o adroddiad, ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i warchod plant i'r canlynol—
(a)rhiant plentyn y gofelir neu y gofalwyd amdano gan y gwarchodwr plant hwnnw;
(b)rhiant plentyn pan fo'r rhiant hwnnw'n ystyried a fydd yn trefnu i'r plentyn gael ei warchod gan y gwarchodwr plant hwnnw ai peidio; neu
(c)awdurdod lleol perthnasol.
(5) At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw adroddiad a gyhoeddir yn freintiedig oni phrofir bod y cyhoeddi wedi ei wneud yn faleisus.
3. Pan fo Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â pherson sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant, yn caniatáu cais person am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 1 i'r awdurdod lleol perthnasol.
4. Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 2 i'r awdurdod lleol perthnasol—
(a)wrth roi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;
(b)wrth ddiddymu cofrestriad person;
(c)wrth atal cofrestriad person dros dro (gan gynnwys achosion pan wnânt hynny ar gais y person cofrestredig);
(ch)wrth dynnu enw person allan o'r gofrestr ar gais person hwnnw; neu
(d)pan fo ynad heddwch, o ganlyniad i gais gan Weinidogion Cymru, yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ran Gweinidogion Cymru
20 Hydref 2010