xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

Arolygu

2.—(1Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi”) drefnu arolygiadau o—

(a)gwarchod plant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig; a

(b)gofal dydd i blant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru neu Brif Arolygydd Ei Mawrhydi yn arolygu unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd i blant, rhaid iddynt—

(a)adrodd mewn ysgrifen ar y materion a arolygir;

(b)anfon copi o'r adroddiad at y person cofrestredig; ac

(c)yn achos adroddiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi gyhoeddi adroddiad ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i ddarparu gofal dydd i blant.

(4Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi ddarparu copi o adroddiad, neu rannau o adroddiad, ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i warchod plant i'r canlynol—

(a)rhiant plentyn y gofelir neu y gofalwyd amdano gan y gwarchodwr plant hwnnw;

(b)rhiant plentyn pan fo'r rhiant hwnnw'n ystyried a fydd yn trefnu i'r plentyn gael ei warchod gan y gwarchodwr plant hwnnw ai peidio; neu

(c)awdurdod lleol perthnasol.

(5At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw adroddiad a gyhoeddir yn freintiedig oni phrofir bod y cyhoeddi wedi ei wneud yn faleisus.

Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol

Caniatáu cofrestriad

3.  Pan fo Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â pherson sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant, yn caniatáu cais person am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 1 i'r awdurdod lleol perthnasol.

Terfynu cofrestriad neu ei atal dros dro

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 2 i'r awdurdod lleol perthnasol—

(a)wrth roi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;

(b)wrth ddiddymu cofrestriad person;

(c)wrth atal cofrestriad person dros dro (gan gynnwys achosion pan wnânt hynny ar gais y person cofrestredig);

(ch)wrth dynnu enw person allan o'r gofrestr ar gais person hwnnw; neu

(d)pan fo ynad heddwch, o ganlyniad i gais gan Weinidogion Cymru, yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ran Gweinidogion Cymru

20 Hydref 2010