Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol
Caniatáu cofrestriad3
Pan fo Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â pherson sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant, yn caniatáu cais person am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 1 i'r awdurdod lleol perthnasol.
Terfynu cofrestriad neu ei atal dros dro4
Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 2 i'r awdurdod lleol perthnasol—
a
wrth roi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;
b
wrth ddiddymu cofrestriad person;
c
wrth atal cofrestriad person dros dro (gan gynnwys achosion pan wnânt hynny ar gais y person cofrestredig);
ch
wrth dynnu enw person allan o'r gofrestr ar gais person hwnnw; neu
d
pan fo ynad heddwch, o ganlyniad i gais gan Weinidogion Cymru, yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).