xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol

Caniatáu cofrestriad

3.  Pan fo Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â pherson sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant, yn caniatáu cais person am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 1 i'r awdurdod lleol perthnasol.

Terfynu cofrestriad neu ei atal dros dro

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 2 i'r awdurdod lleol perthnasol—

(a)wrth roi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;

(b)wrth ddiddymu cofrestriad person;

(c)wrth atal cofrestriad person dros dro (gan gynnwys achosion pan wnânt hynny ar gais y person cofrestredig);

(ch)wrth dynnu enw person allan o'r gofrestr ar gais person hwnnw; neu

(d)pan fo ynad heddwch, o ganlyniad i gais gan Weinidogion Cymru, yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).