Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r trefniadau ar gyfer arolygiadau o rai sy'n darparu gwarchod plant a gofal dydd i blant, a hefyd yr wybodaeth y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei darparu i awdurdod lleol pan gymerir camau penodol.

Mae rheoliad 2 yn dyrannu'r swyddogaeth o drefnu arolygiadau o leoliadau gwarchod plant a gofal dydd i Weinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi”). Rhaid paratoi adroddiad ar ôl pob arolygiad. Rhaid anfon yr adroddiad at y person cofrestredig. Yn achos arolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, raid anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru os gofynnant amdano.

Rhaid cyhoeddi'r adroddiadau arolygu ar ddarpariaeth gofal dydd. Ceir darparu adroddiadau ar warchod plant naill ai i rieni plant a warchodir, i rieni sy'n ddarpar gleientiaid neu i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal dan sylw.

Mae rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru, pan fônt yn bwriadu caniatáu cais am gofrestriad, yn darparu gwybodaeth benodol i awdurdod lleol am warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant. Pennir yr wybodaeth honno yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu i awdurdod lleol pan fo Gweinidogion Cymru naill ai'n dyroddi hysbysiad o fwriad i ddiddymu cofrestriad, yn diddymu cofrestriad, yn atal cofrestriad dros dro neu'n tynnu enw person o'r gofrestr ar gais y person hwnnw. Rhaid darparu'r wybodaeth yn Atodlen 2 hefyd pan fo llys, ar gais Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn sy'n diddymu cofrestriad, o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.