Rheoliad 3
ATODLEN 1Yr wybodaeth sydd i'w chyflenwi i awdurdodau lleol wrth ganiatáu cofrestriad
1. Enw'r person.
2. Yn achos person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal dydd i blant, yr enw busnes, os oes un, y darperir y gofal dydd (neu y bwriedir ei ddarparu) odano gan y person hwnnw, neu'r enw yr adwaenir y lleoliad odano yn gyffredinol.
3. Cyfeiriad y person a chyfeiriad y fangre os yw hwnnw'n wahanol.
4. Pa un ai ar gyfer gwarchod plant ynteu gofal dydd y mae, neu yr oedd, y cofrestriad dan sylw.
5. Unrhyw rif cyfeirnod unigryw a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru.
6. Gwybodaeth ynghylch amseriad a pharhad y ddarpariaeth dan sylw.
7. Nifer ac oedrannau'r plant y gwneir, neu y bwriedir gwneud, y ddarpariaeth ar eu cyfer.
8. Unrhyw amodau a osodwyd ar y cofrestriad.
9. Unrhyw wybodaeth arall am y gwarchodwr plant neu'r darparwr gofal dydd i blant a'r fangre dan sylw, a allai fod o gymorth i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth i bersonau sy'n gofalu am blant ac yn bwriadu defnyddio'r ddarpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.
10. Yn achos person sy'n gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, fel gwarchodwr plant, gwybodaeth pa un a yw'r person hwnnw'n dymuno ai peidio i'w fanylion gael eu cynnwys mewn gwybodaeth a roddir ar gael i bersonau sy'n chwilio am ddarpariaeth gofal plant yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.