ATODLEN 1Yr wybodaeth sydd i'w chyflenwi i awdurdodau lleol wrth ganiatáu cofrestriad

Rheoliad 3

1

Enw'r person.

2

Yn achos person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal dydd i blant, yr enw busnes, os oes un, y darperir y gofal dydd (neu y bwriedir ei ddarparu) odano gan y person hwnnw, neu'r enw yr adwaenir y lleoliad odano yn gyffredinol.

3

Cyfeiriad y person a chyfeiriad y fangre os yw hwnnw'n wahanol.

4

Pa un ai ar gyfer gwarchod plant ynteu gofal dydd y mae, neu yr oedd, y cofrestriad dan sylw.

5

Unrhyw rif cyfeirnod unigryw a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru.

6

Gwybodaeth ynghylch amseriad a pharhad y ddarpariaeth dan sylw.

7

Nifer ac oedrannau'r plant y gwneir, neu y bwriedir gwneud, y ddarpariaeth ar eu cyfer.

8

Unrhyw amodau a osodwyd ar y cofrestriad.

9

Unrhyw wybodaeth arall am y gwarchodwr plant neu'r darparwr gofal dydd i blant a'r fangre dan sylw, a allai fod o gymorth i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 20063, i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth i bersonau sy'n gofalu am blant ac yn bwriadu defnyddio'r ddarpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.

10

Yn achos person sy'n gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, fel gwarchodwr plant, gwybodaeth pa un a yw'r person hwnnw'n dymuno ai peidio i'w fanylion gael eu cynnwys mewn gwybodaeth a roddir ar gael i bersonau sy'n chwilio am ddarpariaeth gofal plant yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.

ATODLEN 2Yr wybodaeth sydd i'w chyflenwi i awdurdodau lleol wrth derfynu cofrestriad neu ei atal dros dro

Rheoliad 4

1

Enw'r person.

2

Yn achos person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal dydd i blant, yr enw busnes, os oes un, y darperir (neu, yn ôl fel y digwydd, y darperid) y gofal dydd odano gan y person hwnnw, neu'r enw yr adwaenir y lleoliad odano yn gyffredinol.

3

Cyfeiriad y person.

4

Pa un ai ar gyfer gwarchod plant ynteu gofal dydd y mae, neu yr oedd, y cofrestriad dan sylw.

5

Unrhyw rif cyfeirnod unigryw a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru.

6

Pa un o'r camau ym mharagraffau (a) i (d) o reoliad 4 a gymerwyd.

7

Gwybodaeth am unrhyw gam gorfodi, neu gam gorfodi arall, a gymerwyd, neu y gellir ei gymryd yn erbyn y person hwnnw a'r rhesymau am unrhyw weithredu o'r fath.