- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
25 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adran 124(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1) a pharagraffau 21, 22 a 25 o Atodlen 9 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac ar ôl ymgynghori â chyrff cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2)(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2010. Deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn rheoliad 18 o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996(4), ar ôl paragraff (4), mewnosoder y canlynol—
“(4A) Nothing in this regulation requires the placing of any traffic sign on or near a road, or the maintenance of such signs, in a special enforcement area in Wales, for the purpose of providing information to road users as to the effect of section 85 or 86 of the Traffic Management Act 2004 in that area.”.
(2) Yn rheoliad 18, paragraff (5), dileer y geiriau “In paragraph (4)” ac yn eu lle rhodder “In paragraphs (4) and (4A)”.
Ieuan Wyn Jones
Y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 o ran Cymru.
Mae adrannau 85 ac 86 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 yn gosod gwaharddiadau ar barcio dwbl a pharcio ar droetffyrdd a ostyngwyd neu a gyfodwyd mewn ardaloedd gorfodi arbennig sydd wedi'u dynodi o dan y Ddeddf honno.
Mae adrannau 85(8) ac 86(9) o Ddeddf 2004 yn darparu bod y gwaharddiadau yn orfodadwy megis petaent wedi'u gosod drwy orchmynion o dan adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 1996 er mwyn darparu nad yw'n ofynnol gosod a chynnal arwyddion traffig i nodi effaith adrannau 85 neu 86 ar ffyrdd mewn ardal gorfodi arbennig yng Nghymru.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan na fydd yn cael effaith sylweddol ar gostau busnes na'r sector gwirfoddol.
1984 p.27. Diwygiwyd paragraff 21 gan baragraff 4(39)(i) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51) a chan Ran II o Atodlen 8 a pharagraff 80 o Atodlen 9 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22). Diwygiwyd paragraff 25 gan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Diwygiwyd adran 134(2) gan baragraff 77 o Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1996/2489, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: