Manyleb llusgrwydi cregyn bylchog10

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig dynnu unrhyw lusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru oni bai, yn achos y cyfryw lusgrwyd—

a

nad yw unrhyw ran o'r ffrâm yn lletach nag 85 centimetr;

b

ei bod yn cynnwys bar danheddog sbring–lwythog effeithiol, gweithredol a symudadwy;

c

nad yw'n cynnwys unrhyw atodiadau ar ei chefn, ar ei brig nac y tu mewn iddi;

ch

nad yw'n cynnwys plât plymio nac unrhyw ddyfais gyffelyb arall;

d

nad yw cyfanswm pwysau'r llusgrwyd, gan gynnwys yr holl ffitiadau, yn fwy na 150 cilogram;

dd

nad yw nifer y modrwyau bol ym mhob rhes sy'n hongian o'r bar bol yn fwy na 7;

e

nad yw nifer y dannedd ar y bar danheddog yn fwy nag 8; ac

f

nad oes yr un dant ar y bar danheddog sydd â'i ddiamedr yn fwy na 22 milimetr, ac nad yw ei hyd yn fwy na 110 milimetr.

2

Yn yr erthygl hon—

a

rhes o fodrwyau bol yw rhes o fodrwyau cydgysylltiol sengl, gyda'r fodrwy sydd yn un pen i'r rhes yn hongian, naill ai o'r bar bol neu o brif adeiledd y llusgrwyd, yn berpendicwlar i'r bar bol;

b

bar bol yw'r bar sydd wedi ei gysylltu wrth ffrâm y llusgrwyd, yn baralel i'r bar danheddog, ac y mae'r modrwyau bol yn hongian oddi arno;

c

bar danheddog yw'r bar â dannedd arno sydd â'u pennau yn pwyntio i waered, ac y bwriedir iddynt gyffwrdd â gwely'r môr wrth i'r llusgrwyd gael ei defnyddio;

ch

diamedr dant yw ei led mwyaf, a fesurir i gyfeiriad llinell y bar danheddog; a

d

hyd dant yw'r pellter rhwng ochr isaf y bar danheddog a blaen y dant.

3

Rhaid peidio ag ystyried modrwyau bol a'r ffasninau sy'n eu cysylltu â'i gilydd ac â'r ffrâm yn atodiadau at ddiben paragraff (1)(c).