Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “bar tynnu” (“tow bar”) yw unrhyw ddyfais neu offeryn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gosod llusgrwyd cregyn bylchog ar gwch, neu ei rhoi ynghlwm wrth gwch, er mwyn caniatáu i lusgrwyd o'r fath gael ei thynnu gan y cwch;

  • ystyr “cregyn bylchog” (“scallop”) yw pysgod cregyn o'r rhywogaeth Pecten maximus;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(1) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

  • ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw darpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n rhychwantu, neu sy'n gymwys i, unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac yn gyfystyr o ran effaith â darpariaeth o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw ardaloedd môr o fewn Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;

  • ystyr “gwaelodlinau” (“baselines”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Môr Tiriogaethol 1987(3); ac

  • mae “llusgrwyd cregyn bylchog” (“scallop dredge”) yw unrhyw gyfarpar ac iddo ffrâm anhyblyg yn enau, a lusgir drwy'r dŵr ac a weithgynhyrchwyd, a addaswyd, a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio at y diben o bysgota am gregyn bylchog.