xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 3

ATODLEN 1

RHAN 1Dirymiadau

Y Rheoliadau a DdirymwydCyfeirnodGraddau'r Dirymu
Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004O.S. 2004/1744 (Cy.183)Y Rheoliadau cyfan

RHAN 2Arbedion a Darpariaethau Trosiannol Cyffredinol

Penderfyniadau ynghylch cyfnod prawf

1.  Yn achos person a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, mae rheoliad 14 ac Atodlen 6 i barhau i gael effaith hyd oni chydymffurfiwyd â'u holl ddarpariaethau.

2.  O ran athrawon—

(a)y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu

(b)a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,

nid ydynt i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 7 mewn ysgol heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.