xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gwnaed
23 Tachwedd 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
6 Ionawr 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2010, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 6 Ionawr 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae “hectar cymwys” (“eligible hectare”) i'w ddehongli yn unol ag Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y mae'r naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol(4);
ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006;
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.
2.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2010, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel y crybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2009 (fel y crybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2010, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
3. Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2009(5).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2010
Erthygl 2
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£) | |
(1) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn. | |||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn. | |||
(3) Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 79 o Reoliad y Cyngor 73/2009. | |||
1. Da byw | |||
Buchod godro | buwch | 384.00 | |
Buchod bridio cig eidion: | Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd | buwch | —100.00 |
Ar dir arall | buwch | —113.00 | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | y pen | —184.00 (1) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | y pen | 116.00 (2) | |
Mamogiaid: | Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd | mamog | 9.00 |
Ar dir arall | mamog | 15.00 | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys Ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | y pen | 3.50 | |
Moch: | hychod a banwesod torrog | Hwch neu fanwes | 314.00 |
moch porc | y pen | 11.10 | |
moch torri | y pen | 14.00 | |
moch bacwn | y pen | 16.70 | |
Dofednod: | ieir dodwy | aderyn | 4.25 |
brwyliaid | aderyn | 0.35 | |
cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.75 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 7.30 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 58.00 | |
Ffa | hectar | 23.00 (3) | |
Rêp had olew | hectar | 108.00 | |
Pys sych | hectar | 186.00 (3) | |
Tatws: | cynnar cyntaf | hectar | 2743.00 |
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 2045.00 | |
Betys siwgr | hectar | 764.00 | |
Gwenith | hectar | 199.00 | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau | |||
Ffrwythau'r berllan | hectar | 2790.00 | |
Ffrwythau meddal | hectar | 6470.00 | |
4. Tir porthiant | |||
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd | hectar | Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (4) | |
5. Hectarau cymwys | |||
Tir a oedd, yn 2009, yn hectar| cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 | tir dan anfantais ddifrifol, ac eithrio rhostir | hectar | 147.55 |
tir dan anfantais | hectar | 185.48 | |
pob tir arall | hectar | 135.20 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2010 i 11 Medi 2011 yn gynwysedig, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2009.
Mae'n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu pa un a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy'n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2009, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall. Rhoddir ffigurau ar wahân hefyd ar gyfer tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2009.
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).
OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn 360/2010 (OJ Rhif L 106, 28.4.2010, t.1).