2010 Rhif 2839 (Cy.233)
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer yn adran 19(4) a (5) ac adran 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101.
RHAN 1
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;
ystyr “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yw unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat;
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “perthynas” (“relative”) yw taid, nain, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (naill ai o waed cyfan neu o hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) neu lys-riant;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person nad yw'n rhiant, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn.
4
Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog, a geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
RHAN 2Eithriadau gwarchod plant
2
Nid yw person sy'n gofalu am blentyn o dan wyth oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o Fesur 2010, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr erthyglau canlynol, 3 i 7.
3
1
Nid yw person sy'n gofalu am blentyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw—
i
yn rhiant neu'n berthynas i'r plentyn; neu,
ii
yn rhiant maeth ar gyfer y plentyn.
2
Yn yr erthygl hon, mae “rhiant maeth” (“foster parent”) yn cynnwys person y lleolwyd plentyn gydag ef, gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, neu berson sy'n maethu plentyn yn breifat.
4
Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os nad yw'r cyfnod, neu gyfanswm y cyfnodau, yn ystod unrhyw un diwrnod pan fo'r person yn gofalu am blant yn fwy na dwy awr.
5
1
Pan fo person sy'n cael ei gyflogi —
a
i
i ofalu am blentyn neu grŵp o siblingiaid ar gyfer rhieni (“y rhieni cyntaf”), neu
ii
i ofalu am ail blentyn neu grŵp o siblingiaid ar gyfer rhieni (“yr ail rieni”) yn ychwanegol at y plant y gofelir amdanynt ar gyfer y rhieni cyntaf, a
b
yn gofalu am y plant o dan sylw yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref neu gartrefi'r rhieni cyntaf neu'r ail rieni,
nid yw'n gweithredu fel gwarchodwr plant.
2
Yn yr erthygl hon—
a
ystyr “cael ei gyflogi” (“employed”) yw cael ei gyflogi naill ai o dan gontract cyflogaeth neu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;
b
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person sy'n berthynas i'r plentyn;
c
mae “grŵp o siblingiaid” (“sibling group”) yn cynnwys hanner-brodyr a hanner-chwiorydd.
6
Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw yn gofalu am y plentyn am gyfnod nad yw'n cychwyn tan ar ôl 6pm ar unrhyw un diwrnod ac sy'n dod i ben cyn 2am y diwrnod canlynol.
7
1
Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw yn gofalu am blentyn neu blant fel rhan o'r broses o fod yn gyfaill i rieni'r plentyn hwnnw neu'r plant hynny ac os na chaiff unrhyw daliad ei wneud am y gwasanaeth.
2
Yn yr erthygl hon ystyr “taliad” (“payment”) yw taliad o arian neu'r hyn sy'n werth arian ond nad yw'n cynnwys darparu nwyddau neu wasanaethau.
RHAN 3Eithriadau gofal dydd i blant
8
Nid yw person, sy'n darparu gofal i blant o dan wyth oed mewn mangre annomestig, yn darparu gofal dydd at ddibenion Mesur 2010 yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15.
9
Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal gan y person hwnnw yn y fangre o dan sylw ar nifer llai na 6 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr, a bod y person hwnnw wedi hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen cyn defnyddio'r fangre o dan sylw am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno.
10
Nid yw person yn darparu gofal dydd os nad yw'r cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau pan ofelir am blant mewn mangre, yn ystod unrhyw un diwrnod, yn hwy na dwy awr.
11
Nid yw person yn darparu gofal dydd os darperir y gofal i blentyn y gofelir amdano mewn cartref plant y cofrestrwyd person mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
12
Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn a letyir mewn—
a
cartref gofal,
b
ysbyty fel claf, neu
c
canolfan breswyl i deuluoedd,
yn rhan o weithgarwch y sefydliad o dan sylw, naill ai gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr.
13
1
Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad cyffelyb arall, i blentyn sy'n aros yn y sefydliad hwnnw—
a
pan fo'r ddarpariaeth yn digwydd yn unig rhwng 6 pm a 2 am; a
b
pan na fo'r person, neu yn ôl y digwydd, unrhyw unigolyn sy'n cael ei gyflogi ganddo, sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny i fwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.
2
At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “cleient” (“client”) yw person y darperir gofal i blentyn ar ei gais (neu bersonau, ar eu cais ar y cyd).
14
1
Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blant mewn ysgol, a'r ddarpariaeth o ofal yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu addysg.
15
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw person yn darparu gofal dydd pan fo'n hyfforddi neu'n dysgu mewn gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3) ac mae unrhyw ofal a ddarperir iddo yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â'r hyfforddi neu'r dysgu hwnnw.
2
Nid yw'r eithriad yn yr erthygl hon yn gymwys —
a
os yw'r plant islaw 5 oed ac yn bresennol am fwy na phedair awr y dydd; neu—
b
os yw'r person yn cynnig hyfforddi neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau o weithgaredd a restrir ym mharagraff (3).
3
Y mathau o weithgaredd yw—
a
chwaraeon;
b
celfyddydau perfformio;
c
celfyddydau a chrefftau;
ch
cymorth ar gyfer astudiaethau ysgol neu waith cartref;
d
astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)