xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Eithriadau gofal dydd i blant

8.  Nid yw person, sy'n darparu gofal i blant o dan wyth oed mewn mangre annomestig, yn darparu gofal dydd at ddibenion Mesur 2010 yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15.

9.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal gan y person hwnnw yn y fangre o dan sylw ar nifer llai na 6 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr, a bod y person hwnnw wedi hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen cyn defnyddio'r fangre o dan sylw am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno.

10.  Nid yw person yn darparu gofal dydd os nad yw'r cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau pan ofelir am blant mewn mangre, yn ystod unrhyw un diwrnod, yn hwy na dwy awr.

11.  Nid yw person yn darparu gofal dydd os darperir y gofal i blentyn y gofelir amdano mewn cartref plant y cofrestrwyd person mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

12.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn a letyir mewn—

(a)cartref gofal,

(b)ysbyty fel claf, neu

(c)canolfan breswyl i deuluoedd,

yn rhan o weithgarwch y sefydliad o dan sylw, naill ai gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr.

13.—(1Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad cyffelyb arall, i blentyn sy'n aros yn y sefydliad hwnnw—

(a)pan fo'r ddarpariaeth yn digwydd yn unig rhwng 6 pm a 2 am; a

(b)pan na fo'r person, neu yn ôl y digwydd, unrhyw unigolyn sy'n cael ei gyflogi ganddo, sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny i fwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “cleient” (“client”) yw person y darperir gofal i blentyn ar ei gais (neu bersonau, ar eu cais ar y cyd).

14.—(1Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blant mewn ysgol, a'r ddarpariaeth o ofal yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu addysg.

(2yn yr erthygl hon ystyr “ysgol” (“school”) yw—

(i)ysgol a gynhelir o fewn yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 39 o Ddeddf Addysg 2002(1);

(ii)ysgol annibynnol; neu

(iii)ysgol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996(2) (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir).

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw person yn darparu gofal dydd pan fo'n hyfforddi neu'n dysgu mewn gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3) ac mae unrhyw ofal a ddarperir iddo yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â'r hyfforddi neu'r dysgu hwnnw.

(2Nid yw'r eithriad yn yr erthygl hon yn gymwys —

(a)os yw'r plant islaw 5 oed ac yn bresennol am fwy na phedair awr y dydd; neu—

(b)os yw'r person yn cynnig hyfforddi neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau o weithgaredd a restrir ym mharagraff (3).

(3Y mathau o weithgaredd yw—

(a)chwaraeon;

(b)celfyddydau perfformio;

(c)celfyddydau a chrefftau;

(ch)cymorth ar gyfer astudiaethau ysgol neu waith cartref;

(d)astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.