xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae i'r geiriau ac ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol—
ystyr “aelod” (“member”) pan fo'r cyd-destun yn caniatáu felly, yw aelod o Gyngor;
ystyr “aelod awdurdod lleol” (“local authority member”) yw aelod o Gyngor a benodir gan awdurdod lleol perthnasol;
ystyr “aelod o'r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o'r Bwrdd CIC;
ystyr “aelod sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation member”) yw aelod a benodir gan sefydliad gwirfoddol;
ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw'r ardal ddaearyddol yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
ystyr “ardal awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority area”) mewn perthynas â Chyngor, yw ardal awdurdod lleol (neu ran ohoni) sydd o fewn dosbarth Cyngor, ac mewn perthynas â phwyllgor lleol, yr ardal awdurdod lleol sy'n cyfateb i ddosbarth pwyllgor lleol;
ystyr “Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol” (“relevant Strategic Health Authority”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Awdurdod Iechyd Strategol sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n preswylio o fewn dosbarth Cyngor;
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sydd â'i ardal (neu ran ohoni) o fewn dosbarth y Cyngor, ac mewn perthynas â phwyllgor lleol, yr awdurdod lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ddosbarth y pwyllgor lleol hwnnw;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn;
ystyr “Bwrdd CIC” (“CHC Board”) yw'r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau 2004 sy'n parhau mewn bodolaeth o dan reoliad 32;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” (“relevant Local Health Board”) mewn perthynas â Chyngor yw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol sydd â'i ardal (neu ran ohoni) yn cyfateb i ddosbarth Cyngor;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd perthnasol” (“relevant health service body”) mewn perthynas â Chyngor yw unrhyw gorff gwasanaeth iechyd sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bersonau sy'n preswylio yn nosbarth Cyngor;
ystyr “corff sy'n penodi” (“appointing body”), mewn perthynas â phenodi aelod o Gyngor, yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol perthnasol neu sefydliad gwirfoddol perthnasol;
ystyr “Cyfarwyddwr” (“Director”) yw'r person a gyflogir o dan reoliad 36 i weithredu fel Cyfarwyddwr y Bwrdd CIC;
ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlir gan erthygl 3 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010 ac, ac eithrio pan eithrir hynny'n benodol gan ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, megis rheoliad 16, Cyngor Iechyd Cymuned a barheir mewn bodolaeth gan erthygl 10 o'r Gorchymyn hwnnw;
ystyr “Cyngor blaenorol” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymwyd gan erthygl 9 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010;
ystyr “Cyngor newydd” (“new Council”), ac eithrio yn rheoliad 4(3), yw Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010;
ystyr “Cyngor perthnasol” (“relevant Council”), mewn perthynas â phwyllgor lleol neu awdurdod lleol (neu ran ohono), yw'r Cyngor y mae'r pwyllgor lleol neu'r awdurdod lleol o fewn ei ddosbarth, ac mewn perthynas â sefydliad gwirfoddol, y Cyngor y cafodd y sefydliad gwirfoddol wahoddiad ganddo i wneud apwyntiadau o dan reoliad 7(1);
ystyr “Cyngor sy'n parhau” (“continued Council”) yw Cyngor y parheir ei fodolaeth gan erthygl 10 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010;
ystyr “dosbarth Cyngor” (“district of a Council”) yw'r ardal ddaearyddol yng Nghymru y sefydlir Cyngor ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010 neu y parheir Cyngor drosti gan erthygl 10 ac Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwnnw;
ystyr “dosbarth pwyllgor lleol” (“local committee district”) yw'r ardal awdurdod lleol neu ran ohoni y penodir pwyllgor lleol ar ei chyfer o dan reoliad 17(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “Gorchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010” (“the Community Health Councils Establishment Order 2010”) yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010(1);
ystyr “gwasanaethau iechyd” (“health services”) yw gwasanaethau mewn perthynas ag atal salwch, diagnosis neu drin salwch, a ddarperir gan neu ar ran cyrff gwasanaeth iechyd perthnasol;
ystyr “Prif Swyddog” (“Chief Officer”) yw'r person a gyflogir o dan reoliad 23 i weithredu fel Prif Swyddog Cyngor;
ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor Cyngor a ffurfir o dan reoliadau 17, 18, 19, 20 neu 21;
ystyr “pwyllgor cynllunio gwasanaethau” (“services planning committee”) yw pwyllgor Cyngor newydd a benodir o dan reoliad 18;
ystyr “pwyllgor gweithredol” (“executive committee”) yw pwyllgor o Gyngor newydd a benodwyd o dan reoliad 19;
ystyr “pwyllgor lleol” (“local committee”) yw pwyllgor Cyngor newydd a sefydlir o dan reoliad 17;
ystyr “pwyllgor lleol perthnasol” (“relevant local committee”), mewn perthynas â Chyngor newydd, yw unrhyw bwyllgor lleol y mae ei ddosbarth o fewn dosbarth Cyngor newydd;
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004(2);
ystyr “sefydliadau gwirfoddol” (“voluntary organisations”) yw cyrff (ac eithrio awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill) y cyflawnir eu gweithgareddau at ddibenion ac eithrio elw;
ystyr “sefydliad gwirfoddol perthnasol” (“relevant voluntary organisation”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw sefydliad gwirfoddol a gafodd wahoddiad i benodi aelodau ar y Cyngor hwnnw o dan reoliad 7(1);
ystyr “Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru” (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth GIG y mae'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, ei sefydliadau a'i chyfleusterau wedi'u lleoli yng Nghymru;
ystyr “Ymddiriedolaeth GIG berthnasol” (“relevant NHS Trust”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n byw o fewn dosbarth Cyngor; ac
ystyr “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol” (“relevant Primary Care Trust”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n preswylio o fewn dosbarth Cyngor.
O.S. 2004/905 (Cy. 89) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1771, O.S. 2005/603 (Cy.51) ac O.S. 2006/562.