xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IIITrafodion Cynghorau

Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4), (5) ac (8), rhaid i aelodau Cyngor ethol—

(a)un o'u plith i fod yn gadeirydd; a

(b)un o'u plith, ac eithrio'r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd,

am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf, ond heb fod yn hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor swydd yr aelod a etholir fel aelod; a rhaid i'r Prif Swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a'r Bwrdd CIC o enwau'r personau a etholir felly, ar unwaith mewn ysgrifen.

(2Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddwy flynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel cadeirydd neu is-gadeirydd Cyngor o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

(3Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd Cyngor os yw'r aelod hwnnw hefyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd pwyllgor lleol o dan reoliad 17(1)(ch).

(4Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd Cyngor onid yw'r aelod hwnnw yn gymwys i'w benodi neu i'w ail benodi ar y Bwrdd CIC o dan reoliadau 34 a 35 yn eu tro.

(5Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd Cyngor am gyfnod hwy nac y mae'n gymwys i aros ar y Bwrdd CIC.

(6Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd honno ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Prif Swyddog, a bydd yn rhaid i'r Prif Swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a'r Bwrdd CIC ar unwaith mewn ysgrifen.

(7Pan fo cadeirydd neu is-gadeirydd wedi ymddiswyddo rhaid i'r aelodau ethol cadeirydd neu is-gadeirydd arall yn unol â pharagraff (1).

(8Yn achos Cynghorau sy'n parhau, caiff cadeirydd ac is-gadeirydd a etholwyd o dan reoliad 11 o Reoliadau 2004 wasanaethu am weddill y cyfnod yr etholwyd hwy drosto hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod cyfnod o wasanaeth yn hwy na dwy flynedd.

Cymhwyso rheoliadau 17 i 19

16.  Dim ond i Gynghorau newydd fel y'u diffinnir yn rheoliad 2 y mae rheoliadau 17 i 19 yn gymwys. Fel y cyfryw, mae cyfeiriadau yn rheoliadau 17 i 19 at Gyngor a Chyngor perthnasol i'w dehongli yn unol â hynny.

Penodi pwyllgorau sydd i'w hadwaen fel Pwyllgorau Lleol

17.—(1Rhaid i'r Cynghorau a restrir wrth rifau 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 2—

(a)penodi pwyllgorau a elwir yn “bwyllgorau lleol” y Cyngor ar gyfer pob un o'r ardaloedd awdurdodau lleol perthnasol, neu rannau ohonynt a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

(b)rhoi i'r pwyllgorau lleol gyfrifoldeb dros—

(i)monitro cynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn eu dosbarth a'u cadw dan arolygiaeth barhaus;

(ii)cydweithredu â phwyllgorau lleol eraill y Cyngor perthnasol er mwyn bodloni'r angen am ddarpariaeth deg o'r gwasanaeth drwy gyfanrwydd dosbarth y Cyngor perthnasol; a

(iii)ymgymryd â'r fath weithgareddau drwy gyfanrwydd dosbarth y Cyngor perthnasol a gwneud y fath o swyddogaethau'r Cyngor ag y caiff y Cyngor neu'r pwyllgor gweithredol eu dirprwyo neu benderfynu arnynt, yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y mae'r Cyngor neu'r pwyllgor gweithredol yn eu hystyried sy'n briodol;

(c)penodi yn aelodau o bob pwyllgor lleol yr aelodau hynny a benodir o dan reoliad 6 gan yr awdurdod lleol perthnasol, ac o dan reoliadau 7 ac 8 mewn perthynas â'r ardal llywodraeth leol berthnasol;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2), sicrhau bod aelodau pob pwyllgor lleol yn ethol un o'u plith i fod yn gadeirydd, ac un o'u plith, heblaw'r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd am gyfnod o hyd at ddwy flynedd, ond heb fod mewn unrhyw achos yn hwy na gweddill tymor yr aelod hwnnw yn aelod o'r Cyngor perthnasol.

(2Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd pwyllgor lleol os yw'r aelod hwnnw hefyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y Cyngor perthnasol o dan reoliad 15(1).

(3Rhaid i bwyllgor gweithredol y Cyngor perthnasol benderfynu ar gyfansoddiad a gorchmynion sefydlog pwyllgorau lleol, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

Penodi pwyllgorau sydd i'w hadwaen fel pwyllgorau cynllunio gwasanaethau

18.—(1O ran Cyngor—

(a)rhaid iddo benodi pwyllgor cynllunio gwasanaethau i gysylltu â'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ynglŷn â chynllunio a datblygu'r modd y cyflenwir gwasanaethau iechyd o fewn dosbarth y Cyngor ac unrhyw gynigion i newid hynny;

(b)caiff roi'r cyfrifoldeb i'r pwyllgor cynllunio gwasanaethau am gyflawni pa bynnag rai eraill o swyddogaethau'r Cyngor a bennir gan y Cyngor, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau y tybia'r Cyngor sy'n briodol;

(c)rhaid iddo sicrhau nad yw aelodaeth y pwyllgor cynllunio gwasanaethau yn llai na chwech, a'i fod yn cynnwys:

(i)y cyfarwyddwr neu gyfarwyddwyr sydd â chyfrifoldeb am gynllunio gwasanaethau ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;

(ii)o leiaf un aelod o bob un o'r pwyllgorau lleol yn ei ddosbarth; a

(iii)o leiaf un aelod o'r pwyllgor gweithredol a benodir o dan reol 19.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(c), caiff penodiadau i bwyllgor cynllunio gwasanaethau gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o Gyngor.

(3Rhaid i bwyllgor gweithredol y Cyngor perthnasol benderfynu ar gyfansoddiad a gorchmynion sefydlog pwyllgorau cynllunio gwasanaethau, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

Penodi pwyllgorau sydd i'w hadwaen fel pwyllgorau gweithredol

19.—(1O ran Cyngor—

(a)rhaid iddo benodi pwyllgor gweithredol i arolygu ymddygiad a pherfformiad pob pwyllgor lleol perthnasol ac i sicrhau y cyflawnir dyletswyddau statudol a swyddogaethau craidd y Cyngor yn effeithiol drwy gyfanrwydd dosbarth Cyngor;

(b)rhaid iddo roi i'r pwyllgor gweithredol gyfrifoldeb dros gymryd neu dros ddirprwyo i bwyllgor arall a ffurfiwyd o dan y Rheoliadau hyn bob penderfyniad terfynol ar arfer swyddogaethau'r Cyngor, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

(i)ymateb i bob ymgynghoriad ar wasanaethau iechyd o fewn dosbarth Cyngor;

(ii)dyroddi datganiadau neu gyhoeddiadau i'r wasg a chyfryngau eraill;

(iii)penodi pwyllgorau a chyd-bwyllgorau o'r Cyngor o dan reoliadau 20 a 21;

(iv)dirprwyo swyddogaethau ar ran y Cyngor i unrhyw bwyllgor o'r Cyngor;

(v)ymdrin â materion sy'n codi wrth arfer swyddogaethau eiriolaeth y Cyngor o dan reoliad 31;

(vi)cymeradwyo pob newid i orchmynion sefydlog Cyngor;

(vii)paratoi a chymeradwyo adroddiadau'r Cyngor sy'n ofynnol gan reoliad 25;

(viii)paratoi a chymeradwyo cyfrifon y Cyngor sy'n ofynnol gan reoliad 41; a

(ix)unrhyw fater arall sy'n ymwneud â gweithrediad y gwasanaeth iechyd o fewn dosbarth Cyngor;

(c)caiff roi cyfrifoldeb i'r pwyllgor gweithredol dros gyflawni pa bynnag rai eraill o swyddogaethau'r Cyngor a bennir gan y Cyngor, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau y tybia'r Cyngor sy'n briodol; ac

(ch)rhaid iddo sicrhau bod aelodaeth y pwyllgor gweithredol yn cynnwys—

(i)cadeirydd ac is-gadeirydd y Cyngor;

(ii)cadeirydd ac is-gadeirydd pob pwyllgor lleol perthnasol; a

(iii)Prif Swyddog y Cyngor.

(2Penderfynir ar gyfansoddiad a gorchmynion sefydlog cyntaf y pwyllgor gweithredol gan Weinidogion Cymru, a dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

Penodi pwyllgorau eraill gan Gyngor

20.—(1Heb ragfarnu rheoliadau 17, 18, 19 a 21, caiff Cyngor benodi un neu fwy o bwyllgorau eraill o'r Cyngor dros gyflawni rhai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau'r Cyngor, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau y tybia'r Cyngor sy'n briodol.

(2Penodir aelodau i bwyllgorau o dan y rheoliad hwn yn ôl disgresiwn y Cyngor sy'n penodi, a chaiff penodiadau o'r fath gynnwys yn rhannol, bersonau nad ydynt yn aelodau o Gyngor.

(3Yn achos Cynghorau newydd rhaid i'r pwyllgor gweithredol benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog pwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

(4Yn achos Cynghorau sy'n parhau rhaid i'r aelodau benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog pwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond os yw mwyafrif yr aelodau yn cymeradwyo hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu. Yn y rheoliad hwn, ystyr mwyafrif yr aelodau yw mwyafrif yr aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio.

Penodi cyd-bwyllgorau gan Gyngor

21.—(1Heb ragfarnu rheoliadau 17, 18, 19 a 20, caiff Cyngor, ar y cyd ag un neu ragor o Gynghorau eraill, benodi cyd-bwyllgor o'r Cynghorau hynny i arfer, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau a gytunir rhwng y Cynghorau hynny, rhai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau pob un o'r Cynghorau hynny.

(2Os oes un neu fwy o Gynghorau newydd yn penodi cyd-bwyllgor rhaid i'r pwyllgor gweithredol, neu, os yw'n ymwneud â mwy nag un Cyngor newydd, rhaid i bwyllgor gweithredol pob Cyngor o'r fath sy'n penodi, benderfynu gyda'i gilydd, ar gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgorau gweithredol hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

(3Os oes un neu fwy o'r Cynghorau sy'n parhau yn penodi cyd-bwyllgor, rhaid i'r Cyngor neu'r Cynghorau sy'n penodi, benderfynu ar gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth mwyafrif aelodau Cyngor neu Gynghorau o'r fath y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu. Yn y rheoliad hwn, ystyr mwyafrif aelodau yw mwyafrif yr aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio.

Trafodion Cynghorau

22.  Mae darpariaethau Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael eu heffaith mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion Cyngor.

Swyddogion

23.—(1Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod gan y Cynghorau y nifer o swyddogion sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn ddigonol i alluogi'r Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)i gyflogi person sy'n dderbyniol i Gyngor i weithredu fel ei Brif Swyddog;

(b)i ymgynghori â Chyngor, ac yn ddarostyngedig i fod unrhyw swyddog unigol a ddynodir yn cael ei dderbyn gan y Cyngor, i gyflogi personau i weithredu fel pa bynnag swyddogion eraill i'r Cyngor ag sy'n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cael ei gyfarwyddo.

(3Yn achos Cynghorau newydd, caiff personau a gyflogir o dan y rheoliad hwn gynnwys person a elwir yn Ddirprwy Brif Swyddog pwyllgor lleol a sefydlir o dan reoliad 17.

(4Rhaid i wasanaethau'r personau a gyflogir yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3) gael eu rhoi ar gael i'r Cyngor gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw neu'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru honno yn ystod cyfnod eu cyflogaeth.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill

24.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â Chyngor—

(a)darparu i'r Cyngor pa bynnag swyddfa a mannau eraill ag sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau; a

(b)sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer pa bynnag wasanaethau gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a gwasanaethau eraill, y gall fod eu hangen, ym marn Gweinidogion Cymru, ar gyfer y cyfryw fannau.

(2Er mwyn galluogi Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau caiff Gweinidogion Cymru roi ar gael i'r Cyngor pa bynnag gyfleusterau (gan gynnwys defnyddio unrhyw fangre a defnyddio unrhyw gerbyd, offer neu gyfarpar) a ddarperir ganddynt ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf, fel y bo'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol i arfer unrhyw un neu'r cyfan o'u swyddogaethau o dan y rheoliad hwn a/neu cânt ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd neu'r Byrddau Iechyd Lleol beri bod gwasanaethau pa bynnag o'u cyflogeion ar gael i'r Cyngor, fel y bo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo .

Adroddiadau

25.—(1Erbyn 1 Medi bob blwyddyn, rhaid i Gyngor gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar y modd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn honno, a pha bynnag faterion eraill a fynnir gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i unrhyw adroddiad gynnwys y materion canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain—

(a)manylion o'r modd y cyflawnwyd swyddogaethau o dan reoliadau 26 a 31; a

(b)manylion am y modd yr ymgysylltodd y Cyngor â'r boblogaeth leol a grwpiau cymunedol o fewn ei ddosbarth, a'r modd y bu'r Cyngor yn adlewyrchu yn briodol y safbwyntiau a gasglwyd o ganlyniad i'r ymgysylltu hwnnw.

(3Rhaid i Gyngor—

(a)darparu copïau o'r adroddiad i bob corff gwasanaeth iechyd perthnasol a phob awdurdod lleol perthnasol ac i'r cyfryw sefydliadau gwirfoddol a ystyria'n briodol neu a fynnir gan Weinidogion Cymru, o fewn dosbarth y Cyngor; a

(b)cymryd pa bynnag gamau a ystyrir yn briodol gan y Cyngor i sicrhau bod cynnwys yr adroddiad yn hysbys i'r cyhoedd yn ei ddosbarth.