Search Legislation

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN VY Bwrdd CIC

Swyddogaethau

32.—(1Bydd y Bwrdd CIC a sefydlwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau 2004 yn parhau mewn bodolaeth o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

(2Yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen, bydd gan y Bwrdd CIC y swyddogaethau canlynol—

(a)rhoi cyngor i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau;

(b)cynorthwyo Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau;

(c)cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau ar y cyd gerbron Gweinidogion Cymru;

(ch)monitro perfformiad Cynghorau gyda'r nod o ddatblygu a sicrhau cysondeb safonau ymhlith yr holl Gynghorau;

(d)monitro ymddygiad aelodau a benodir o dan reoliad 3 gyda'r nod o sicrhau safonau priodol o ymddygiad;

(dd)monitro ymddygiad a pherfformiad swyddogion a gyflogir o dan reoliad 23 gyda'r nod o sicrhau safonau priodol o ymddygiad; ac

(e)gweithredu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 33.

Gweithdrefn Gwynion

33.—(1Rhaid i'r Bwrdd CIC, o 1 Ebrill 2010 ymlaen, barhau i wneud darpariaeth ar gyfer trin ac ystyried cwynion a wneir ynghylch arfer unrhyw rai o swyddogaethau Cyngor neu'r Bwrdd CIC.

(2Os bydd y Bwrdd CIC yn penderfynu diwygio'r weithdrefn gwynion a ddyfeiswyd yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r Bwrdd CIC sicrhau yn gyntaf bod y weithdrefn newydd wedi cael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn y caniateir gweithredu unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau.

Aelodaeth y Bwrdd CIC

34.—(1Yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen mae i Fwrdd CIC 12 o aelodau Bwrdd y mae—

(a)wyth ohonynt yn bersonau a benodwyd yn gadeiryddion pob un o'r wyth Gyngor;

(b)un ohonynt yn un a benodwyd gan y swyddogion a gyflogir o dan reoliad 23, yn gweithredu ar y cyd;

(c)un ohonynt yn un a benodwyd i weithredu fel cadeirydd gan yr holl aelodau yn gweithredu ar y cyd drwy bleidlais bost;

(ch)un ohonynt yn un a benodwyd i weithredu fel is-gadeirydd gan yr holl aelodau yn gweithredu ar y cyd drwy bleidlais bost; a

(d)un ohonynt yn Gyfarwyddwr y Bwrdd CIC.

(2Os digwydd mai canlyniad unrhyw fater y mae'r Bwrdd CIC yn pleidleisio arno yw pleidlais gyfartal, bydd gan Gadeirydd y Bwrdd CIC a benodwyd yn unol â pharagraff (1)(c) bleidlais fwrw.

(3Dim ond swyddog a gyflogir o dan reoliad 23 sy'n gymwys i'w benodi o dan baragraff (1)(b).

(4Rhaid i drefniadau priodol fod wedi eu gwneud ar gyfer dewis a phenodi (gan gynnwys tymor y penodiad) personau yn gadeirydd ac is-gadeirydd gan yr aelodau o dan baragraff (1)(c) a (ch), a rhaid i'r trefniadau hynny gymryd i ystyriaeth—

(a)yr egwyddorion a bennir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;

(b)y gofynion bod y dull o ddewis a phenodi aelodau yn agored a thryloyw;

(c)pan fo'n gymwys, y gofyniad am gystadleuaeth deg ac agored wrth ddewis a phenodi'r ymgeiswyr llwyddiannus.

(5Tymor swydd aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(a) o'r rheoliad hwn yw hyd at ddwy flynedd, fel a bennir wrth wneud y penodiad, heb fod mewn unrhyw achos yn gyfnod hwy na gweddill tymor penodiad yr aelod o'r Bwrdd fel cadeirydd Cyngor o dan reoliad 15.

(6Tymor swydd aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(b) o'r rheoliad hwn yw hyd at ddwy flynedd, fel a bennir wrth wneud y penodiad, heb fod mewn unrhyw achos yn gyfnod hwy na gweddill tymor cyflogaeth yr aelod o'r Bwrdd fel swyddog Cyngor o dan reoliad 23.

(7Tymor swydd aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraffau (1)(c) ac (ch) o'r rheoliad hwn yw hyd at ddwy flynedd.

(8Tymor swydd y Cyfarwyddwr yw cyhyd ag y pery tymor ei gyflogaeth fel Cyfarwyddwr.

Cymhwyster Aelodau o'r Bwrdd i'w hailbenodi ar y Bwrdd CIC

35.—(1Caiff aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraffau (1)(a) i (ch) o reoliad 34 wasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd fan hwyaf.

(2Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddwy flynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o'r Bwrdd, sy'n cynnwys pob cyfnod o wasanaeth cyn 1 Ebrill 2010 a phob cyfnod o wasanaeth o ganlyniad i unrhyw benodiad o dan baragraffau (1)(a) i (ch) o reoliad 34.

(3Nid yw aelod o'r Bwrdd sy'n dal ei le ar y Bwrdd CIC yn rhinwedd ei gyflogaeth fel Cyfarwyddwr y Bwrdd CIC yn ddarostyngedig i uchafswm cyfnod o wasanaeth ar y Bwrdd CIC. Fe bery cyfnod ei wasanaeth ar y Bwrdd cyhyd ag y'i cyflogir fel Cyfarwyddwr.

(4Caiff aelod o Gyngor sy'n parhau a benodwyd ar y Bwrdd CIC o dan reoliad 24 o Reoliadau 2004 wasanaethu am weddill y tymor y'i penodwyd drosto hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yr aelod hwnnw'n gwasanaethu'n hwy na dwy flynedd. I osgoi amwysedd, fodd bynnag, bydd darpariaethau paragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn yn gymwys i'r cyfryw aelodau petaent yn ceisio cael eu hail ethol.

Staff Cymorth

36.—(1Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau y bydd gan y Bwrdd CIC y nifer o swyddogion sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn ddigonol i alluogi'r Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)i gyflogi person sy'n dderbyniol i'r Bwrdd CIC i weithredu fel Cyfarwyddwr iddo; a

(b)i ymgynghori â'r Bwrdd CIC ac, yn ddarostyngedig i fod unrhyw swyddog unigol a ddynodir yn cael ei dderbyn gan y Bwrdd CIC, i gyflogi'r cyfryw bersonau i weithredu fel swyddogion i'r Bwrdd CIC ag sy'n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cael ei gyfarwyddo.

(3Bydd y modd y cyflogir person i weithredu fel swyddog y Bwrdd CIC, a chyfnod y penodiad, yn fodd sy'n dderbyniol gan y Bwrdd CIC.

(4Rhaid i wasanaethau personau a gyflogir yn unol â pharagraffau (1) a (2) gael eu rhoi ar gael i'r Bwrdd CIC gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru sy'n cyflogi yn ystod cyfnod eu cyflogaeth.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill

37.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, o 1 Ebrill 2010 ymlaen ac ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd CIC—

(a)parhau i ddarparu i'r Bwrdd CIC pa bynnag swyddfa a mannau eraill ag sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i alluogi'r Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau; a

(b)parhau i sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer pa bynnag wasanaethau gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a gwasanaethau eraill a allai yn eu barn hwy fod yn angenrheidiol ar gyfer y cyfryw fannau.

(2Er mwyn galluogi'r Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau caiff Gweinidogion Cymru roi ar gael i'r Bwrdd CIC pa bynnag gyfleusterau (gan gynnwys defnyddio unrhyw fangre a defnyddio unrhyw gerbyd, offer neu gyfarpar) a ddarperir ganddynt ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf, fel y bo'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol i arfer unrhyw un neu'r cyfan o'u swyddogaethau o dan y rheoliad hwn, a/neu cânt ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol beri bod gwasanaethau pa bynnag o'u cyflogeion ar gael i'r Bwrdd CIC, fel y bo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo.

Trafodion

38.—(1Ar ôl 1 Ebrill 2010 penderfynir ar gyfansoddiad a rheolau sefydlog y Bwrdd CIC gan Weinidogion Cymru a dim ond os cymeradwyir hynny gan Weinidogion Cymru y caniateir eu newid neu eu dirymu.

(2Caiff y Bwrdd CIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau, a chaiff y pwyllgorau ac is-bwyllgorau hynny gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd CIC.

(3Bydd hawl gan gynrychiolydd Gweinidogion Cymru a chynrychiolydd y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a gyfarwyddir yn unol â rheoliad 36(2), i fod yn bresennol ac i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau yng nghyfarfodydd y Bwrdd CIC (ond nid yn y penderfyniadau).

Adroddiadau

39.  Erbyn 1 Medi 2010 ac erbyn 1 Medi ym mhob blwyddyn ddilynol, rhaid i'r Bwrdd CIC gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar y modd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn honno, a pha bynnag faterion eraill a fynnir gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources