Rheoliad 15
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “camau penodedig” (“specified steps”) yw'r camau a bennir mewn hysbysiad terfynol o dan baragraff 6(c)(i) o Atodlen 3;
ystyr “cyfnod penodedig” (“specified period”) yw'r cyfnod a bennir mewn hysbysiad terfynol o dan baragraff 6(c)(ii) o Atodlen 3.
(2) Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fethiant llwyr yn gyfeiriad at werthwr na chymerodd ddim un o'r camau penodedig o fewn y cyfnod penodedig.
(3) Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fethiant rhannol yn gyfeiriad at werthwr a gymerodd o leiaf un o'r camau penodedig, ond nid y cyfan ohonynt, o fewn y cyfnod penodedig.
2.—(1) Os yw gwerthwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol, caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod cosb am beidio â chydymffurfio ar y gwerthwr.
(2) Caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas â methiant llwyr neu rannol i gydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol.
(3) Caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio p'un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy ai peidio yn ychwanegol at y gofyniad heb fod yn ôl disgresiwn y mae cosb am beidio â chydymffurfio yn berthnasol iddo.
(4) Mae swm y gosb am beidio â chydymffurfio i'w ddyfarnu gan y gweinyddwr.
(5) Ond uchafswm y gosb y caniateir ei gosod gan weinyddwr fel cosb am beidio â chydymffurfio yw'r swm a bennir yn is-baragraff (6) drwy gyfeirio at y math o fethiant o dan sylw.
(6) Uchafswm y cosbau yw—
(a)£5,000 mewn perthynas â methiant rhannol;
(b)£5,000 mewn perthynas â methiant llwyr.
3.—(1) Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb am beidio â chydymffurfio ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno i'r gwerthwr hwnnw hysbysiad o'r hyn y bwriedir ei wneud (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y math o fethiant y mae'r gweinyddwr yn bwriadu gosod y gosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas â hi;
(b)y camau penodedig sydd eto i'w cymryd gan y gwerthwr o dan sylw;
(c)swm y gosb a fwriedir;
(ch)sut y gellir talu;
(d)erbyn pa ddyddiad y byddai'r taliad yn ddyledus;
(dd)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus;
(e)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 4;
(f)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y ceir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;
(ff)o dan ba amgylchiadau (os oes rhai) y byddai'r gweinyddwr yn dueddol o leihau swm y gosb a fwriedir.
4. O fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y gwerthwr yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r bwriad i osod cosb am beidio â chydymffurfio.
5.—(1) Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 4, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai gosod y gosb am beidio â chydymffurfio gydag addasiadau neu hebddynt ai peidio.
(2) Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb am beidio â chydymffurfio os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.
(3) Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i'r gweinyddwr ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â pharagraff 4.
(4) Pan fo gweinyddwr yn penderfynu gosod cosb am beidio â chydymffurfio rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio”) i'r gwerthwr.
(5) Rhaid i hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio gydymffurfio â pharagraff 6.
6.—(1) Rhaid i hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau am osod y gosb o beidio â chydymffurfio;
(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr, gan gynnwys yr effaith (os oes un) ar swm y gosb sy'n cael ei osod;
(c)swm y gosb;
(ch)sut y gellir talu;
(d)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;
(dd)yr hawl i apelio; a
(e)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.
(2) Rhaid i gosb am beidio â chydymffurfio gael ei thalu gan werthwr o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad sy'n ei gosod.
(3) Ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir dyfarniad i apêl).
(4) Os cydymffurfir â gofynion y gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol cyn bod y 56 o ddiwrnodau wedi dod i ben, nid yw'r gosb am beidio â chydymffurfio yn daladwy.
(5) Caiff gwerthwr y cyflwynwyd iddo hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(6) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm arall;
(d)unrhyw reswm arall.
7. Os bydd hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff yr hysbysiad ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 gan ddechrau ar y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu.
8. Os na thelir cosb am beidio â chydymffurfio o fewn y cyfnod a ganiateir gan baragraff 6(2) neu (yn ôl y digwydd) gan baragraff 7, cynyddir y swm sy'n daladwy gan 50%.