Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2915 (Cy.240)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010

Gwnaed

7 Rhagfyr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2010

Yn dod i rym

1 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(1) a (9) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ionawr 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Gwaharddiad

3.  Yn ddarostyngedig i erthygl 4, gwaherddir pysgota am bysgod môr gydag offer gosod yn yr ardal benodedig.

Esemptiadau

4.—(1Nid yw erthygl 3 yn gymwys i—

(a)offer gosod, yr awdurdodir ei osod a'i ddefnyddio mewn is-ddeddfau a wnaed gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu ei rhagflaenyddion; neu

(b)offer gosod, yr awdurdodir ei osod a'i ddefnyddio mewn is-ddeddfau y cyfeirir atynt yn Erthygl 13 ac Atodlenni 3, 4 a 5 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbedol) (Cymru a Lloegr) 2010(4); neu

(c)offer gosod sy'n ddull trwyddedadwy o bysgota at ddibenion adran 25 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975(5) ac sy'n cael ei ddefnyddio yn unol â thrwydded a roddwyd at ddibenion yr adran honno; neu

(ch)offer gosod, yr awdurdodwyd ei osod a'i ddefnyddio o dan adran 27A o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwahardd defnyddio offer gosod wrth bysgota am bysgod môr yn yr ardal benodedig, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwahardd defnyddio offer gosod wrth bysgota am bysgod môr yn yr ardal benodedig, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a geir yn erthygl 4.

Mae erthygl 4 yn gosod yr eithriadau i'r gwaharddiad yn erthygl 3. Yr eithriadau yw offer gosod penodedig sydd wedi'u hawdurdodi o ran pysgota am bysgod môr.

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1967 p.84. Amnewidiwyd adrannau 5(1) a (9) gan adran 198 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23).

(4)

O.S. 2010/630 (p.42).