Search Legislation

Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2915 (Cy.240)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010

Gwnaed

7 Rhagfyr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2010

Yn dod i rym

1 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(1) a (9) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ionawr 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “yr ardal benodedig” (“the specified area”) yw unrhyw ddyfroedd mewndirol neu ddyfroedd llanw yng Nghymru;

  • ystyr “brithyll mudol” (“migratory trout”) yw brithyll sy'n mudo yn ôl ac ymlaen i'r môr;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006((2)).

  • ystyr “dyfroedd llanw” (“tidal waters”) yw unrhyw ran o'r môr neu unrhyw ran o afon sydd o fewn trai a gorllan y llanw ar lanw mawr arferol;

  • mae i “dyfroedd mewndirol” yr ystyr a roddir i “inland waters” yn adran 221(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(3);

  • mae “eog” (“salmon”) yn cynnwys unrhyw bysgodyn o rywogaeth yr eog;

  • mae “offer gosod” (“fixed engine”) yn cynnwys—

    (a)

    rhwyd stanc, rhwyd cwdyn, rhwyd fasged neu rwyd fasged fawr;

    (b)

    unrhyw declyn neu offeryn gosod ar gyfer cymryd neu hwyluso cymryd pysgod;

    (c)

    unrhyw rwyd sy'n cael ei dal yn ei lle gan angorau ac unrhyw rwyd neu declyn arall ar gyfer cymryd pysgod, sy'n sownd i'r pridd, neu wedi'i osod yn sefydlog mewn unrhyw fodd arall; ac

    (ch)

    unrhyw rwyd sy'n cael ei gosod, ei dal neu ei chynnal mewn unrhyw ddyfroedd mewndirol neu ddyfroedd llanw sydd heb fod yng ngofal y perchennog neu berson a awdurdodwyd yn briodol gan y perchennog i'w defnyddio ar gyfer cymryd pysgod môr, ac unrhyw offer, dyfais, peiriant neu beth, p'un ai a yw'n arnofio ai peidio, ar gyfer gosod neu ddal neu gynnal rhwyd o'r fath neu ei chynnal a'i chadw fel ei bod yn gweithio neu ei gwneud yn sefydlog; ac

  • ystyr “pysgod môr” (“sea fish”) yw pysgod o unrhyw fath sydd i'w cael yn y môr, gan gynnwys pysgod cregyn, eogiaid a brithyll mudol;

Gwaharddiad

3.  Yn ddarostyngedig i erthygl 4, gwaherddir pysgota am bysgod môr gydag offer gosod yn yr ardal benodedig.

Esemptiadau

4.—(1Nid yw erthygl 3 yn gymwys i—

(a)offer gosod, yr awdurdodir ei osod a'i ddefnyddio mewn is-ddeddfau a wnaed gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu ei rhagflaenyddion; neu

(b)offer gosod, yr awdurdodir ei osod a'i ddefnyddio mewn is-ddeddfau y cyfeirir atynt yn Erthygl 13 ac Atodlenni 3, 4 a 5 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbedol) (Cymru a Lloegr) 2010(4); neu

(c)offer gosod sy'n ddull trwyddedadwy o bysgota at ddibenion adran 25 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975(5) ac sy'n cael ei ddefnyddio yn unol â thrwydded a roddwyd at ddibenion yr adran honno; neu

(ch)offer gosod, yr awdurdodwyd ei osod a'i ddefnyddio o dan adran 27A o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Rhagfyr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwahardd defnyddio offer gosod wrth bysgota am bysgod môr yn yr ardal benodedig, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwahardd defnyddio offer gosod wrth bysgota am bysgod môr yn yr ardal benodedig, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a geir yn erthygl 4.

Mae erthygl 4 yn gosod yr eithriadau i'r gwaharddiad yn erthygl 3. Yr eithriadau yw offer gosod penodedig sydd wedi'u hawdurdodi o ran pysgota am bysgod môr.

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1967 p.84. Amnewidiwyd adrannau 5(1) a (9) gan adran 198 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23).

(4)

O.S. 2010/630 (p.42).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources