Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2953 (Cy.245)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010

Gwnaed

10 Rhagfyr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Rhagfyr 2010

Yn dod i rym

5 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 102 a 181 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru(3).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiad dros dro a osodwyd ar 5 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol,

  • ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,

(b)pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond ar ôl cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod wedyn i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,

(c)caiff ysgol sy'n darparu addysg gynradd ac addysg uwchradd ei thrin fel ysgol gynradd os yw'r disgybl a waharddwyd dros dro yn cael addysg gynradd ac fel arall fel ysgol uwchradd.

Dyletswydd i wneud cais am gyfweliad ailintegreiddio

3.—(1Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir wneud cais i riant(4) disgybl a waharddwyd dros dro, a'r rhiant hwnnw yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r disgybl, fynychu cyfweliad ailintegreiddio yn yr achosion a ragnodir ym mharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr achosion a ragnodir yw pan fo disgybl o oed ysgol gorfodol yn cael ei wahardd dros dro ar sail ddisgyblaethol—

(a)o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu

(b)o ysgol uwchradd am unrhyw gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy.

(3Nid yw achos wedi'i ragnodi—

(a)pan fo'r diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef yn dod o fewn deng niwrnod ysgol diwethaf y tymor diwethaf o unrhyw flwyddyn ysgol, neu

(b)pan fo'r pennaeth yn disgwyl i'r disgybl beidio â mynychu'r ysgol o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) am reswm nad yw'n gysylltiedig ag ymddygiad y disgybl.

Ffurf y cais ac amseriad y cyfweliad

4.—(1Pan fo'r ddyletswydd yn rheoliad 3 yn gymwys rhaid i'r pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant o'r materion canlynol—

(a)dyddiad, amser a hyd y cyfweliad ailintegreiddio,

(b)diben y cyfweliad, ac

(c)dyletswydd y llys, wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn rhianta ai peidio mewn perthynas â rhiant o dan adran 20 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(5), i roi ystyriaeth i fethiant gan y rhiant heb esgus rhesymol i fynychu cyfweliad ailintegreiddio pan gaiff gais i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ar y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, a

(b)sy'n gorffen ar y pymthegfed diwrnod ysgol sy'n dod ar ôl y diwrnod olaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef (pa un ai a yw'r diwrnod ysgol hwnnw yn dod o fewn yr un tymor ai peidio).

(3Cyn rhoi'r hysbysiad rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad ar ddyddiad ac ar amser (o fewn y cyfnod) a awgrymir gan y rhiant.

(4Caniateir cynnal y cyfweliad ar ddiwrnod o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y pennaeth a'r rhiant yn cytuno ar hynny.

(5Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod ysgol cyn dyddiad y cyfweliad ailintegreiddio.

Cyfuno hysbysiadau

5.  Caniateir cyfuno hysbysiad sy'n ymwneud â chyfweliad ailintegreiddio a roddir yn unol â rheoliad 4 gyda hysbysiad a roddir i'r rhiant yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002(6) (personau rhagnodedig sydd i gael gwybodaeth am unrhyw waharddiad).

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i bennaeth wneud cais i rieni disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd fynychu cyfweliad ailintegreiddio o dan adran 102 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (“Deddf 2006”), ac yn rhagnodi'r weithdrefn y mae'n rhaid trefnu'r cyfweliad oddi tani.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth wneud cais am gyfweliad â rhiant disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu o ysgol uwchradd am gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy. Rhaid i'r rhiant fod yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r plentyn. Nid oes angen i bennaeth wneud cais o'r fath os yw'r gwaharddiad yn dechrau o fewn deng niwrnod i ddiwedd tymor yr haf neu os disgwylir i'r disgybl adael yr ysgol am reswm heblaw ei ymddygiad (er enghraifft os yw'r disgybl yn symud i ysgol mewn ardal wahanol).

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cais gael ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig ac yn pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi yn yr hysbysiad hwnnw. Mae'n rhagnodi cyfnod y mae'n rhaid i'r cyfweliad ddigwydd o'i fewn ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfweliad ddigwydd ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod hwnnw, er y caiff ddigwydd ar ddiwrnod o fewn y cyfnod hwnnw nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y rhiant a'r pennaeth yn cytuno ar hynny. Rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad o fewn y cyfnod ar ddyddiad ac ar amser a awgrymir gan y rhiant. Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod cyn bod y cyfweliad i ddigwydd.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu cyfuno hysbysiad oddi wrth bennaeth o dan y Rheoliadau hyn a'r hysbysiad yn rhoi gwybod i'r rhiant am y gwaharddiad (o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002).

Mae adran 572 o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu ar gyfer sut y caniateir rhoi'r hysbysiad. Caniateir ei ddanfon at y rhiant, ei adael yng nghyfeiriad arferol, neu gyfeiriad hysbys diwethaf y rhiant, neu ei anfon mewn llythyr gyda chyfeiriad arno ac y talwyd amdano ymlaen llaw i'r cyfeiriad hwnnw. Caniateir ei anfon drwy e-bost os yw'r rhiant wedi cytuno i ddefnyddio e-bost i dderbyn hysbysiadau.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Mae adran 111 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn diffinio “maintained school” at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4)

Mae adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio 'parent' at ddibenion y rheoliadau hyn.