Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 317 (Cy.41)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

CYLLID

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2010

Gwnaed

11 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Chwefror 2010

Yn dod i rym

28 Chwefror 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 28 Chwefror 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)

2.  Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

(a)y geiriau “or relevant special grant” wedi eu hepgor yn is-adran (3)(a)(3); a

(b)yr is-adran ganlynol wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (12)(4)

(12A) In this section and section 33 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2010-2011 (Final Settlement-Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)(5) of, and paragraph 11B(1)(6) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 12 January 2010; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report..

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)

3.  Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992(7) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor.

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)

4.  Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

(a)yn is-adran (3)(a)(i)(8)

(i)y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a

(ii)y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod cyn “or police grant;”; a

(b)yr is-adrannau canlynol wedi eu mewnosod ar ôl is-adran (6D)(9)

(6E) In this section and section 44 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2010-2011 (Final Settlement-Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 9 February 2010; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.

(6F) In this section and section 44 below “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C)..

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (prif awdurdodau praeseptio)

5.  Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992(10) yn effeithiol fel pe bai, yn eitem P—

(a)y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a

(b)y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod cyn “or police grant;”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Chwefror 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn nodi, yn ôl eu trefn, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn nodi, yn ôl eu trefn, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010.

Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at “relevant special grant” o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992, gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010.

Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod y diffiniadau o'r symiau sy'n daladwy mewn perthynas ag ardrethi annomestig ailddosbarthedig a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig ailddosbarthedig a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad o anghenion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â symiau o'r fath sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol priodol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010. Mae'r un diffiniadau'n gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio “floor funding” yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010.

Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992, fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a dderbynnir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2010 wrth wneud y cyfrifiad gofynnol ar gyfer y flwyddyn honno.

(1)

1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac ar ôl hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234). Fe'i haddaswyd hefyd o ran y flwyddyn ariannol 2009–2010 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/267 (Cy.30)).

(4)

Addaswyd adran 32 hefyd gan reoliad 2(b) o O.S. 2009/267 (Cy.30) i gael effaith fel pe bai adran newydd (12A) wedi ei mewnosod o ran y flwyddyn ariannol 2009–2010.

(5)

1988 p.41; amnewidiwyd adran 84H (yn lle adran 84H fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o Orchymyn Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388) ac Atodlen 1 iddo.

(6)

Amnewidiwyd paragraff 11B(1) (yn lle paragraff 11B(1) fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o O.S. 2007/1388 ac Atodlen 1 iddo.

(7)

Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd o ran y flwyddyn ariannol 2009–2010 gan reoliad 3 o O.S. 2009/267 (Cy.30).

(8)

Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd o ran y flwyddyn ariannol 2009–2010 gan reoliad 4(a) o O.S. 2009/267 (Cy.30).

(9)

Addaswyd adran 43 gan reoliad 4(b) o O.S. 2009/267 (Cy. 30) i gael effaith fel pe bai is-rannau newydd 43(6E) a (6F) wedi eu mewnosod o ran blynyddoedd ariannol 2009–2010.

(10)

Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd o ran y flwyddyn ariannol 2009–2010 gan reoliad 5 o O.S. 2009/267 (Cy. 30).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources