Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992

3.—(1Diwygir y Rheoliadau Sylweddau Peryglus fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)(dehongli) yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “substances” mewnosoder “(as amended by Directive 2003/105/EC of the European Parliament and of the Council(2))”.

(3Yn rheoliad 4(6)(esemptiadau) yn lle “6, 14, 35 and 39” rhodder “10, 18, 39 and 43.”

(4Yn lle Atodlen 1 (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth) rhodder yr Atodlen 1 a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol: cydsyniadau presennol

4.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sylwedd, i beth a gymysgir neu i beth a baratoir o fewn ystyr rheoliad 3 o'r Rheoliadau Sylweddau Peryglus, ac a ddisgrifir mewn cydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd (neu y bernir iddo gael ei roi) cyn bod y Rheoliadau hyn wedi dod i rym—

(a)os bydd disgrifiad y sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir yng ngholofn 1 o Ran A neu Ran B o Atodlen 1 i'r Rheoliadau Sylweddau Peryglus fel y mae cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn cael ei ddiwygio o ganlyniad i ddyfodiad y Rheoliadau hyn i rym; a

(b)os yw'r cydsyniad sylweddau peryglus yn bodoli mewn perthynas â'r sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir sydd dan sylw yn union cyn dyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.

(2Mewn perthynas â sylwedd, peth a gymysgir neu beth a baratoir y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caniateir anwybyddu'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn wrth ddehongli'r cydsyniad sylweddau peryglus i'r graddau y mae'n ymwneud â'r sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir neu'r maintioli ohono sydd dan reolaeth.

(3Mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys os yw'r cydsyniad sylweddau peryglus mewn perthynas â'r sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir neu'r maintioli ohono sydd dan reolaeth yn cael ei addasu gan yr awdurdod sylweddau peryglus ar 19 Mawrth 2010 neu wedi hynny.

Esemptiadau Trosiannol

5.—(1Ni chyflawnir tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf Sylweddau Peryglus cyn 19 Awst 2010 ac ni chaniateir dyroddi hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar unrhyw dir, neu uwch ei ben neu oddi tano,—

(a)os oedd y sylwedd yn bresennol ar unrhyw dir, neu uwch ei ben neu oddi tano ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis yn gorffen ar 19 Mawrth 2010 ac nad oedd yn sylwedd neu'n faintioli o sylwedd yr oedd yn ofynnol cael cydsyniad sylweddau peryglus ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw; a

(b)os nad yw'r sylwedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sy'n cychwyn ar 19 Mawrth 2010 ac sy'n gorffen ar 18 Awst 2010 mewn maintioli sy'n fwy yn gyfunol na'r maintioli sefydledig.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “y maintioli sefydledig”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw uchafswm y maintioli oedd yn bresennol ar y tir, neu uwch ei ben neu oddi tano ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis sy'n gorffen ar 19 Mawrth 2010.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.

24 Chwefror 2010