Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
24 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Chwefror 2010
Yn dod i rym
19 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 4, 5 a 40(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(1).
1990 p.10; cafodd adran 4 ei diwygio gan O.S. 1999/981; mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Mae'r pwerau hyn bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Fe'u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).