Darpariaeth drosiannol: cydsyniadau presennol4

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sylwedd, i beth a gymysgir neu i beth a baratoir o fewn ystyr rheoliad 3 o'r Rheoliadau Sylweddau Peryglus, ac a ddisgrifir mewn cydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd (neu y bernir iddo gael ei roi) cyn bod y Rheoliadau hyn wedi dod i rym—

a

os bydd disgrifiad y sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir yng ngholofn 1 o Ran A neu Ran B o Atodlen 1 i'r Rheoliadau Sylweddau Peryglus fel y mae cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn cael ei ddiwygio o ganlyniad i ddyfodiad y Rheoliadau hyn i rym; a

b

os yw'r cydsyniad sylweddau peryglus yn bodoli mewn perthynas â'r sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir sydd dan sylw yn union cyn dyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.

2

Mewn perthynas â sylwedd, peth a gymysgir neu beth a baratoir y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caniateir anwybyddu'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn wrth ddehongli'r cydsyniad sylweddau peryglus i'r graddau y mae'n ymwneud â'r sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir neu'r maintioli ohono sydd dan reolaeth.

3

Mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys os yw'r cydsyniad sylweddau peryglus mewn perthynas â'r sylwedd hwnnw, y peth a gymysgir neu'r peth a baratoir neu'r maintioli ohono sydd dan reolaeth yn cael ei addasu gan yr awdurdod sylweddau peryglus ar 19 Mawrth 2010 neu wedi hynny.