Esemptiadau Trosiannol5

1

Ni chyflawnir tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf Sylweddau Peryglus cyn 19 Awst 2010 ac ni chaniateir dyroddi hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar unrhyw dir, neu uwch ei ben neu oddi tano,—

a

os oedd y sylwedd yn bresennol ar unrhyw dir, neu uwch ei ben neu oddi tano ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis yn gorffen ar 19 Mawrth 2010 ac nad oedd yn sylwedd neu'n faintioli o sylwedd yr oedd yn ofynnol cael cydsyniad sylweddau peryglus ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw; a

b

os nad yw'r sylwedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sy'n cychwyn ar 19 Mawrth 2010 ac sy'n gorffen ar 18 Awst 2010 mewn maintioli sy'n fwy yn gyfunol na'r maintioli sefydledig.

2

Ym mharagraff (1) ystyr “y maintioli sefydledig”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw uchafswm y maintioli oedd yn bresennol ar y tir, neu uwch ei ben neu oddi tano ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis sy'n gorffen ar 19 Mawrth 2010.