
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 48 (Cy.13)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Ionawr 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1A) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(), dyddiedig Mehefin 2009 ar adolygiad o ran o'r ffin rhwng siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol, ynghyd â'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar hynny;
A bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
Newid yn ardaloedd siroedd wedi'u cadw
3. Trosglwyddir y rhan honno o sir wedi'i chadw Powys a ddangosir â chroeslinellau ar y map ffiniau i sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2010
Nodyn Esboniadol
Mae adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) (“Deddf 1994”) yn darparu y bydd y siroedd yng Nghymru fel yr oeddynt yn union cyn pasio Deddf 1994 yn parhau mewn bodolaeth at ddibenion penodol. Fe'u gelwir yn “siroedd wedi'u cadw”.
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith, heb addasiadau, i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a adroddodd ym mis Mehefin 2009 ar ei adolygiad o ran o ffin siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newid i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Orchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009 (O.S. Rhif 889 (Cy.78)) yn ardal Pontsticill, rhwng Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol a Sir Powys yn sir wedi'i chadw Powys.
Back to top