2010 Rhif 48 (Cy.13)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1A) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, dyddiedig Mehefin 2009 ar adolygiad o ran o'r ffin rhwng siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol, ynghyd â'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar hynny;

A bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau;

A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1.

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map sy'n dwyn y teitl “Map o Orchymyn Siroedd Wedi'u Cadw Powys a Morgannwg Ganol (Newid yn Ardaloedd) 2010”.

Newid yn ardaloedd siroedd wedi'u cadw3.

Trosglwyddir y rhan honno o sir wedi'i chadw Powys a ddangosir â chroeslinellau ar y map ffiniau i sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol.

Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) (“Deddf 1994”) yn darparu y bydd y siroedd yng Nghymru fel yr oeddynt yn union cyn pasio Deddf 1994 yn parhau mewn bodolaeth at ddibenion penodol. Fe'u gelwir yn “siroedd wedi'u cadw”.

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) a (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith, heb addasiadau, i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a adroddodd ym mis Mehefin 2009 ar ei adolygiad o ran o ffin siroedd wedi'u cadw Powys a Morgannwg Ganol. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newid i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Orchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009 (O.S. Rhif 889 (Cy.78)) yn ardal Pontsticill, rhwng Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn sir wedi'i chadw Morgannwg Ganol a Sir Powys yn sir wedi'i chadw Powys.