- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gwnaed
24 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7), 50(1) a (3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Ebrill;
ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad o fewn ystyr adran 15(6) o'r Mesur; ac
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(3) Dim ond i awdurdodau gwella Cymreig sy'n awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, wedi'u cyfansoddi gan gynllun o dan adran 2 o'r Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.
2. Rhaid i awdurdodau gwella Cymreig gyhoeddi eu cynllun gwella cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn berthnasol iddi.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gyhoeddi cynllun (sy'n cael ei alw'n “gynllun gwella” yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) o'r Mesur ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i gynllun gwella awdurdod tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol gael ei gyhoeddi.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: