3.—(1) Diwygir Rhan 1 (Rhagarweiniad) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 6 (dehongli), rhodder—
6. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947;
ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;
ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais ar gyfer rhanddirymiad;
mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;
ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 14(1)(c) neu gynlluniau eraill tebyg y mae'n ofynnol eu cael o dan Atodlen 4;
ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;
ystyr “da byw sy'n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;
ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl dir sydd o fewn parth perygl nitradau ynghyd â'i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i'r meddiannydd ac sy'n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol;
ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y rhoddwyd rhanddirymiad ar ei gyfer;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dŵr sydd wedi'i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy'n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu'n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “porfa” (“grass”) yw—
glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod llai na phedair blynedd);
yr hyn a geir rhwng hau'r borfa ac aredig y borfa; ac
gan gynnwys cnydau wedi'u hau o dan y borfa,
ond nid yw'n cynnwys glaswelltir sydd a 50% neu ragor o feillion;
mae “pridd tenau” (“shallow soil”) yn bridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy'n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall—
pan fo yn yr haen hyd at ddyfnder o 40 cm—
mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm,
llai na 18 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a
llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig; a
pan fo, yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—
mwy na 70 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2mm,
llai na 15 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a
llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig;
ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn fel a ddarperir ym mharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a roddwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2009/431/EEC(1) a roddwyd gan yr Asiantaeth neu, ar apêl, gan y panel apelau ar gais i randdirymu o dan reoliad 13B;
ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda'r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi'u gwahanu i'w ffracsiynau hylifol a'u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw'r slyri);
mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi arwyneb y tir, chwistrellu i mewn i'r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw'n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;
ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy'n dod o ffynonellau anifail, planhigyn neu ddynol ac mae'n cynnwys tail da byw;
ystyr “tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—
y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º;
nad oes ganddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio); ac
sydd o leiaf 50 o fetrau o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy'n arwain at gwrs dŵr.”.
OJ Rhif L 141, 6.6.09, t.48.