Rheoliad 10

YR ATODLEN

Rheoliadau 6 a 38

ATODLEN 1Faint o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy'n pori a da byw nad ydynt yn pori

Tabl 1

Da byw sy'n pori

CategoriY tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau)Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau)Y ffosffad a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau)
(a)

Gwryw wedi'i sbaddu.

(b)

Yn achos mamog, mae'r ffigur hwn yn cynnwys un neu fwy o ŵyn sugno nes bod yr ŵyn yn chwe mis oed.

Gwartheg
Llo (pob categori ac eithrio ar gyfer cig llo) hyd at 3 mis:72312.7
Buwch odro—
O 3 mis a llai na 13 mis:209534
O 13 mis tan ei llo cyntaf:4016769
Ar ôl ei llo cyntaf ac y mae—
ei chynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 o litrau:64315142
ei chynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 o litrau:53276121
ei chynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 o litrau:4221193
Buchod neu fustych cig eidion(a)
O 3 mis a llai na 13 mis:209133
O 13 mis a llai na 25 mis:2613743
O 25 mis—
gwartheg benyw neu fustych i'w cigydda:3213760
gwartheg benyw ar gyfer bridio—
sy'n pwyso 500kg neu lai:3216765
sy'n pwyso'n fwy na 500kg:4522786
Teirw
Nad ydynt yn bridio, 3 mis a throsodd:2614824
Bridio—
o 3 mis a llai na 25 mis:2613743
o 25 mis:2613260
Defaid
O 6 mis hyd at 9 mis oed:1.85.50.76
O 9 mis oed hyd at ŵyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda:1.83.92.1
Ar ôl ŵyna neu hwrdda(b)
yn pwyso llai na 60 kg:3.3218.8
yn pwyso dros 60kg:53310.0
Geifr, ceirw a cheffylau
Geifr:3.54118.8
Ceirw—
bridio:54217.6
arall:3.53311.7
Ceffyl:245856

Tabl 2

Da byw nad ydynt yn pori

CategoriY tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau)Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau)Y ffosffad a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau)
(a)

Nodyn: mae pob ffigur ar gyfer dofednod yn cynnwys sarn.

Gwartheg
Llo ar gyfer cig llo:72312.7
Dofednod(a)
Iâr a ddefnyddir i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl—
llai na 17 wythnos:0.040.640.47
o 17 wythnos (mewn caets):0.121.131.0
o 17 wythnos (heb fod mewn caets):0.121.51.1
Ieir a fegir am eu cig:0.061.060.72
Ieir a fegir ar gyfer bridio—
llai na 25 wythnos:0.040.860.78
o 25 wythnos:0.122.021.5
Twrci—
gwryw:0.163.743.1
benyw:0.122.832.3
Hwyaden:0.102.482.4
Estrys:1.63.8318.5
Moch
Pwysau o 7kg ac yn llai na 13kg:1.34.11.3
Pwysau o 13kg ac yn llai na 31kg:214.26.0
Pwysau o 31kg ac yn llai na 66kg—
bwydo sych:3.72412.1
bwydo hylif:7.12412.1
Pwysau o 66kg ac—
a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda—
bwydo sych:5.13317.9
bwydo hylif:103317.9
hwch a fwriadwyd ar gyfer bridio na chafodd ei thorraid gyntaf hyd yn hyn:5.63820
hwch (gan gynnwys torraid hyd at 7kg) wedi'i bwydo ar ddeiet gydag atchwanegiadau asidau amino synthetig:10.94437
hwch (gan gynnwys torraid hyd at 7kg) wedi'i bwydo ar ddeiet heb asidau amino synthetig:10.94937
baedd bridio o 66kg hyd at 150kg:5.13317.9
baedd bridio o 150kg:8.74828

Rheoliad 17

ATODLEN 2Cyfrifo'r nitrogen sydd mewn tail

RHAN 1Tabl safonau

Cyfanswm y nitrogen mewn tail
Tail ac eithrio slyriCyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)
Tail ac eithrio slyri o'r anifeiliaid a ganlyn—
gwartheg:6
moch:7
defaid:7
hwyaid:6.5
ceffylau:7
geifr:6
Tail o ieir dodwy:19
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio:30
SlyriCyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg)
Gwartheg:2.6
Moch:3.6
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol)—
blwch hidlo:1.5
wal hidlo:2
hidl fecanyddol:3
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn solet):4
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol):3.6
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn solet):5
Dŵr budr:0.5

RHAN 2Samplu a dadansoddi

Slyri

1.(1) O ran slyri, rhaid cymryd o leiaf bum sampl a phob un ohonynt yn 2 litr.

(2) Rhaid i'r sampl gael ei chymryd o lestr dal slyri, ac—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r slyri fod wedi'i gymysgu'n drylwyr cyn i'r samplau gael eu cymryd, a

(b)rhaid i bob sampl gael ei chymryd o le gwahanol.

(3) Ond os oes falf addas wedi'i gosod ar dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer taenu, caniateir i'r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid i bob sampl gael ei chymryd bob hyn a hyn yn ystod y broses daenu.

(4) Rhaid i'r samplau gael eu harllwys i gynhwysydd mwy ei faint, eu troi'n drylwyr a rhaid i sampl 2 litr gael ei chymryd o'r cynhwysydd hwnnw a'i harllwys i gynhwysydd glân llai.

(5) Rhaid i'r sampl honno gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.

Tail solet

2.(1) O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau o domen dail.

(2) Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.

(3) Rhaid i bob is-sampl gael ei chymryd o leiaf 0.5 metr o wyneb y domen.

(4) Os yw samplau yn cael eu casglu i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i'w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn fwy na 12 mis oed.

(5) Rhaid dodi'r is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy'n lân a sych.

(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri a rhaid cymysgu'r is-samplau â'i gilydd yn drylwyr.

(7) Rhaid i sampl nodweddiadol, sy'n pwyso o leiaf 2 kg, gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.

Rheoliadau 27 a 29

ATODLEN 3Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig

Y cnwdY gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar)
(a)

Rhaid peidio â thaenu nitrogen ar y cnydau hyn ar ôl 31 Hydref.

(b)

Caniateir i 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar gael ei daenu bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddyddiad y cynhaeaf.

(c)

Caniateir i uchafswm o 40kg o nitrogen yr hectar gael ei daenu ar unrhyw un adeg.

Rêp had olew, gaeaf(a)30
Merllys50
Bresych(b)100
Porfa(a) (c)80
Sgaliwns wedi'u gaeafu40
Perllys40
Bylbiau winwns40

Rheoliad 13D

ATODLEN 4Daliadau a randdirymwyd

1.  Mae'r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.

Rhanddirymiad oddi wrth y mesurau sy'n llywodraethu'r terfyn wrth ddodi tail da byw

2.  Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—

lle—

  • A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno,

  • Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy'n pori, p'un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu, a

  • Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p'un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.

Cynllunio'r modd y mae gwrtaith ffosffad yn cael ei daenu

3.(1) Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i'r meddiannydd—

(a)asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy'n debygol o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);

(b)cyfrifo'r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o'r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac

(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.

(2) Rhaid i'r meddiannydd wneud hyn—

(a)yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a

(b)yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.

4.  Yn ychwanegol at y gofynion o dan baragraff 3 rhaid i'r cynllun gwrteithio gofnodi—

(a)y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a'r dull a ddefnyddir i gadarnhau'r ffigur hwn;

(b)cyfrifo'r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o'r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac

(c)faint o nitrogen sy'n debygol o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i'w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;

(ch)faint o ffosffad sy'n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;

(d)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac

(dd)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio'r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).

Samplu a dadansoddi pridd

5.(1) Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i'r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.

(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a'r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.

(3) Os na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd cyn 2010, rhaid cyflawni'r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—

(a)75% o'r ardal amaethyddol erbyn 1 Mawrth 2011, a

(b)100% o'r ardal amaethyddol erbyn 1 Mawrth 2012.

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn

6.(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i'w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—

(a)cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a

(b)faint o ffosffad sy'n debygol o gael ei gyflenwi o'r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio'r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.

(2) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—

(a)faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a

(b)y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).

Mapiau risg

7.(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 18 (mapiau risg), rhaid i fap risg—

(a)dangos pob cae wedi'i farcio â Rhif cyfeirnod neu rif sy'n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;

(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac

(c)cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.

(2) Rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r map risg o fewn mis o unrhyw newid mewn amgylchiadau.

Cynnal y daliad a randdirymwyd yn ddaliad glaswelltir

8.  Rhaid i'r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod 80% neu fwy o'r ardal amaethyddol sydd ar gael i ddodi tail arni yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn galendr honno.

Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad a randdirymwyd

9.  O ran unrhyw borfa a gafodd ei haredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, ni chaiff neb—

(a)aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;

(b)aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac

(c)aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.

Hadu cnydau ar ôl porfa ar y daliad a randdirymwyd

10.  O ran hadu cnydau neu borfa ar unrhyw borfa a gafodd ei haredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, rhaid bod y tir—

(a)wedi'i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy'n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu

(b)wedi'i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy'n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.

Cylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd

11.  Rhaid i gylchdro cnydau beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy'n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion a chodlysiau eraill gyda phorfa wedi'i hau oddi tanynt.

Cofnodi maint y daliad a randdirymwyd

12.(1) Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a'r ardal o borfa o fewn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.

(2) Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa yn newid rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r cofnod o fewn mis sy'n dechrau drannoeth y newid.

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio

13.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 36 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod sy'n disgrifio'r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.

Cofnod o'r nitrogen a'r ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid

14.(1) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a'r categori (yn unol â'r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i'w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr honno.

(2) Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i'r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i'r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.

(3) Rhaid i'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.

Tail da byw y bwriedir dod ag ef i'r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno

15.(1) Rhaid i'r meddiannydd—

(a)gwneud cofnod o'r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i'r daliad a'i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr honno; a

(b)cyfrifo a chofnodi faint o nitrogen yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4).

(2) Rhaid i'r cofnodion sydd i'w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.

Cofnodion o'r cnydau a heuwyd

16.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 41 (cofnodion o'r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—

(a)y cnwd a heuwyd; a

(b)y dyddiad hau.

Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad

17.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i feddiannydd gofnodi—

(a)o fewn wythnos o daenu tail organig—

(i)cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a

(ii)faint o ffosffad a gyflenwyd i'w amsugno gan y cnwd; a

(b)o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—

(i)y dyddiad taenu; a

(ii)faint o ffosffad a daenwyd.

Cofnodi dyddiad yr aredig

18.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o'r aredig, ddyddiad yr aredig hwnnw.

Cyfrifon gwrteithio

19.(1) Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i'r Asiantaeth erbyn 30 Ebrill o'r flwyddyn ganlynol.

(2) Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.

(3) Rhaid i'r cyfrif gwrteithio gofnodi—

(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;

(b)yr ardal o'r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—

(i)gwenith gaeaf,

(ii)gwenith gwanwyn,

(iii)haidd gaeaf,

(iv)haidd gwanwyn,

(v)rêp had olew gaeaf,

(vi)betys siwgr,

(vii)tatws,

(viii) indrawn porthi,

(ix)porfa, a

(x)cnydau eraill;

(c)nifer a chategori'r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â'r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;

(ch)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;

(d)faint o dail da byw a pha fath a ddygwyd i'r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol;

(dd)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(d) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);

(e)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; a

(f)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i'r daliad a randdirymwyd a'i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol..