Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diwygiadau cyffredinol sy'n ymwneud â “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a “Divisional Veterinary Manager”2

1

Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, yn lle'r term “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn lle'r term “Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Welsh Ministers”.

2

Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2, mae'r diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, neu, fel y bo'n briodol, “Divisional Veterinary Manager” yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn wedi eu dirymu.

Diwygiadau i Orchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 19743

1

Mae Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 19742 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 5(5), yn lle “Secretary, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Hook Rise South, Tolworth, Surrey, KT6 7NF, to the Divisional Veterinary Manager” rhodder “Welsh Ministers”.

3

Hepgorer yr ail Nodyn (sy'n dechrau gyda'r geiriau “The inspector is with all practicable speed”) i'r Hysbysiad a bennir yn Atodlen 2 (hysbysiad yn datgan ac yn diffinio terfynau lle heintiedig).

Diwygiadau i Orchymyn Clefyd Aujeszky 19834

1

Mae Gorchymyn Clefyd Aujeszky 19833 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 19(2), yn lle “Divisional Veterinary Manager of the Ministry for that area” rhodder “Welsh Ministers”.

3

Hepgorer y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C, D ac E yn yr Atodlen.

Diwygiad i Orchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 19875

Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 19874 wedi ei ddiwygio drwy hepgor y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C a D yn Atodlen 1.

Diwygiadau i Orchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 20066

1

Mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 20065 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 4(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

3

Yn erthygl 5(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

Diwygiad i Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 20067

Yn lle erthygl 9(5) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 20066 rhodder—

5

Where notification is received under this article from a person other than the occupier of the premises where the relevant animal or carcase is located, a veterinary inspector may serve a notice on the occupier informing the occupier that—

a

notification has been received under this article; and

b

Schedule 1 applies in relation to the premises.

Diwygiad i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 20068

Mae erthygl 9(4) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 20067 wedi ei hepgor.

Dirymu9

Mae Gorchymyn y Gorchmynion Iechyd Anifeiliaid (Diwygiad ynghylch Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) 19958 wedi ei ddirymu.

Elin JonesY Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru