Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diwygiadau cyffredinol sy'n ymwneud â “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a “Divisional Veterinary Manager”

2.—(1Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, yn lle'r term “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn lle'r term “Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Welsh Ministers”.

(2Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2, mae'r diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, neu, fel y bo'n briodol, “Divisional Veterinary Manager” yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn wedi eu dirymu.

Diwygiadau i Orchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974

3.—(1Mae Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 5(5), yn lle “Secretary, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Hook Rise South, Tolworth, Surrey, KT6 7NF, to the Divisional Veterinary Manager” rhodder “Welsh Ministers”.

(3Hepgorer yr ail Nodyn (sy'n dechrau gyda'r geiriau “The inspector is with all practicable speed”) i'r Hysbysiad a bennir yn Atodlen 2 (hysbysiad yn datgan ac yn diffinio terfynau lle heintiedig).

Diwygiadau i Orchymyn Clefyd Aujeszky 1983

4.—(1Mae Gorchymyn Clefyd Aujeszky 1983(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 19(2), yn lle “Divisional Veterinary Manager of the Ministry for that area” rhodder “Welsh Ministers”.

(3Hepgorer y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C, D ac E yn yr Atodlen.

Diwygiad i Orchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987

5.  Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987(3) wedi ei ddiwygio drwy hepgor y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C a D yn Atodlen 1.

Diwygiadau i Orchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006

6.—(1Mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 4(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

(3Yn erthygl 5(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

Diwygiad i Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006

7.  Yn lle erthygl 9(5) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006(5) rhodder—

(5) Where notification is received under this article from a person other than the occupier of the premises where the relevant animal or carcase is located, a veterinary inspector may serve a notice on the occupier informing the occupier that—

(a)notification has been received under this article; and

(b)Schedule 1 applies in relation to the premises..

Diwygiad i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006

8.  Mae erthygl 9(4) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(6) wedi ei hepgor.

Dirymu

9.  Mae Gorchymyn y Gorchmynion Iechyd Anifeiliaid (Diwygiad ynghylch Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) 1995(7) wedi ei ddirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2010