2010 Rhif 618 (Cy.60)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 15(4) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diwygiadau cyffredinol sy'n ymwneud â “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a “Divisional Veterinary Manager”2

1

Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, yn lle'r term “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn lle'r term “Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Welsh Ministers”.

2

Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2, mae'r diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, neu, fel y bo'n briodol, “Divisional Veterinary Manager” yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn wedi eu dirymu.

Diwygiadau i Orchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 19743

1

Mae Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 19742 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 5(5), yn lle “Secretary, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Hook Rise South, Tolworth, Surrey, KT6 7NF, to the Divisional Veterinary Manager” rhodder “Welsh Ministers”.

3

Hepgorer yr ail Nodyn (sy'n dechrau gyda'r geiriau “The inspector is with all practicable speed”) i'r Hysbysiad a bennir yn Atodlen 2 (hysbysiad yn datgan ac yn diffinio terfynau lle heintiedig).

Diwygiadau i Orchymyn Clefyd Aujeszky 19834

1

Mae Gorchymyn Clefyd Aujeszky 19833 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 19(2), yn lle “Divisional Veterinary Manager of the Ministry for that area” rhodder “Welsh Ministers”.

3

Hepgorer y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C, D ac E yn yr Atodlen.

Diwygiad i Orchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 19875

Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 19874 wedi ei ddiwygio drwy hepgor y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C a D yn Atodlen 1.

Diwygiadau i Orchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 20066

1

Mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 20065 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 4(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

3

Yn erthygl 5(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

Diwygiad i Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 20067

Yn lle erthygl 9(5) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 20066 rhodder—

5

Where notification is received under this article from a person other than the occupier of the premises where the relevant animal or carcase is located, a veterinary inspector may serve a notice on the occupier informing the occupier that—

a

notification has been received under this article; and

b

Schedule 1 applies in relation to the premises.

Diwygiad i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 20068

Mae erthygl 9(4) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 20067 wedi ei hepgor.

Dirymu9

Mae Gorchymyn y Gorchmynion Iechyd Anifeiliaid (Diwygiad ynghylch Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) 19958 wedi ei ddirymu.

Elin JonesY Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Y TERM “GWEINIDOGION CYMRU” WEDI EI ROI YN LLE “RHEOLWR MILFEDDYGOL RHANBARTHOL” A'R TERM “WELSH MINISTERS” WEDI EI ROI YN LLE “DIVISIONAL VETERINARY MANAGER”

Erthygl 2(1)

Enw

Cyfeiriad

Y darpariaethau a ddiwygiwyd

Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966

O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 3

Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974

O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 4(3)(a) a (b)

Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977

O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthyglau 4(2), (3)(b), (4) a (5)(a) a 5(4)

Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987

O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthyglau 4(1), (2)(a) a (b), (3)(a), (b) ac (c), 7 (Rheolau 8 a 9) a 9, a Rheolau 8 a 9 yn Ffurflen A yn Atodlen 1

Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989

O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthyglau 4(1), 5(1), a 7(b)

Gorchymyn Anthracs 1991

O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthyglau 4, 7(2) a 9

Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995

O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthyglau 4(1), (3)(i) a (ii) a (4)(a) a 6(2), paragraffau 3 a 5 o Ran I o'r Atodlen a pharagraff 7 o Ran II o'r Atodlen

Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996

O.S. 1996/2628

Erthygl 5(1)(a)

Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003

O.S. 2003/1079 (Cy. 148)

Erthygl 4(1)(a) a (2)

Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003

O.S. 2003/2456 (Cy. 239)

Erthygl 4(1) a (2); Erthygl 13(3), paragraff 8 o Ran I o Atodlen 1, paragraff 20 o Ran II o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran I o Atodlen 2, paragraff 9 o Ran II o Atodlen 2

Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003

O.S. 2003/3273 (Cy. 323)

Erthyglau 4(1) a (2) a 13(3), paragraff 9 o Ran1 o Atodlen 1, paragraff 11 o Ran 2 o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2, paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2

Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006

O.S. 2006/179 (Cy. 30)

Erthyglau 9(1), (2), (3) a (4) a pharagraff 1 o Atodlen 7

Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006

O.S. 2006/867 (Cy. 79)

Erthyglau 3(1)(b) a (2), 4(1) a 5(1)

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006

O.S. 2006/2927 (Cy. 262)

Erthygl 9(1), (2) a (3)

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006

O.S. 2006/1053 (Cy. 109)

Erthyglau 5(1)(a) a (2), 6(1) a 9(2)(ch)(i)

ATODLEN 2DIFFINIADAU O “ RHEOLWR MILFEDDYGOL RHANBARTHOL” A “DIVISIONAL VETERINARY MANAGER” SYDD WEDI EU DIRYMU

Erthygl 2(2)

Teitl

Cyfeiriad

Y ddarpariaeth y dirymwyd y diffiniad ynddi

Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966

O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 2(1)

Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974

O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977

O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987

O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 3(1)

Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989

O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Anthracs 1991

O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995

O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922

Erthygl 3

Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996

O.S. 1996/2628

Erthygl 2

Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003

O.S. 2003/1079 (Cy. 148)

Erthygl 3(1)

Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003

O.S. 2003/2456 (Cy. 239)

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003

O.S. 2003/3273 (Cy. 323)

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006

O.S. 2006/179 (Cy.30)

Erthygl 3(1)

Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006

O.S. 2006/866 (Cy.78)

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006

O.S. 2006/867 (Cy. 79)

Erthygl 2(1)

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006

O.S. 2006/1053 (Cy. 109)

Erthygl 3(1)

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchmynion penodedig er mwyn dileu cyfeiriadau at “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a disodli'r cyfeiriadau hynny â chyfeiriadau at “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn dileu cyfeiriadau at “Divisional Veterinary Manager” a disodli'r cyfeiriadau hynny â chyfeiriadau at “Welsh Ministers”. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dirymu diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a “Divisional Veterinary Manager” ym mhob Gorchymyn yr effeithir arno.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.