Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli cyfeiriadau at “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” â chyfeiriadau at “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn disodli cyfeiriadau at “Divisional Veterinary Manager” â chyfeiriadau at “Welsh Ministers” yn—

(a)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996;

(b)Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006;

(c)Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006;

(ch)Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006; a

(d)Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.