RHAN 1CYFLWYNIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010 ac y maent yn dod i rym ar 12 Ebrill 2010.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) i'w ddehongli yn y modd y dehonglir “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf 2002;

  • mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw'r awdurdod addysg lleol yng Nghymru sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig; a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau addysg lleol yng Nghymru, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod addysg lleol sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig;

  • ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol ac nad yw'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw'r corff y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â'r grefydd neu'r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo;

  • ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn fel y bo'n briodol;

  • ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19963;
  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19984;
  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod ysgol fel y'i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod sydd yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19715;
  • ystyr “y dyddiad ffedereiddio” (“the federation date”) yw'r dyddiad pan fo cyrff llywodraethu yn ffedereiddio;

  • ystyr “pennaeth dros dro” (“acting head teacher”) yw person a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth yr ysgol hyd nes penodir pennaeth neu yn absenoldeb y pennaeth;

  • ystyr “y Rheoliadau Cynghorau Ysgol” (“the School Council Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 20056;
  • ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20057;
  • ystyr “y Rheoliadau Staffio” (“the Staffing Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20068;
  • ystyr “y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd” (“the New Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 20059; ac y
  • mae i “ysgol newydd” (“new school”) yr un ystyr ag yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd.

(2)

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)

corff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn; a

(b)

offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu y ffederasiwn.

RHAN 2SEFYDLU NEU YMUNO Å FFEDERASIWN

Achosion rhagnodedig

3.

(1)

Mae rheoliadau 4 i 7 yn gymwys pan fo dau o leiaf ond dim mwy na phump o gyrff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio yn unol ag adran 24 o Ddeddf 2002.

(2)

Mae rheoliadau 8 a 9 yn gymwys pan fwriedir sefydlu ysgol newydd a phan fo naill ai—

(a)

y corff llywodraethu dros dro yn dymuno ffedereiddio ag un neu ragor o gyrff llywodraethu; neu

(b)

yr awdurdod lleol neu, yn achos ysgol sydd i fod yn ysgol sefydledig neu wirfoddol ac y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer ei sefydlu gan hyrwyddwyr, yr hyrwyddwyr, yn cynnig y dylai'r ysgol fod yn ysgol ffederal.

Gweithdrefn ar gyfer ysgolion sy'n dymuno ffedereiddio

4.

(1)

Pan fo corff llywodraethu yn ystyried ffedereiddio, rhaid iddo yn gyntaf ystyried adroddiad ar y cynnig.

(2)

Rhaid i'r adroddiad gael ei bennu yn eitem ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod y rhoddir hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 54(4).

5.

(1)

Pan fo corff llywodraethu yn cynnig y dylai ffedereiddio â chorff llywodraethu ffederasiwn, rhaid iddo roi hysbysiad o'r cynnig i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

(2)

Wedi iddo dderbyn yr hysbysiad, rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn ystyried a ddylai—

(a)

rhoi ei gydsyniad rhagarweiniol i'r corff llywodraethu ymuno â'r ffederasiwn (“cydsyniad rhagarweiniol”); neu

(b)

benderfynu na ddylai'r corff llywodraethu ymuno â'r ffederasiwn.

6.

(1)

Pan fo corff llywodraethu yn penderfynu y dylai ffedereiddio ag un neu ragor o gyrff llywodraethu eraill, a chydsyniad rhagarweiniol, pan fo'i angen, wedi ei roi, rhaid iddo, ar y cyd â'r corff neu gyrff llywodraethu eraill, gyhoeddi cynigion ar gyfer ffedereiddio.

(2)

Rhaid i'r cynigion gynnwys y canlynol—

(a)

enw neu enwau'r corff neu gyrff llywodraethu y mae'r corff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio â hwy, a chadarnhad bod y corff neu gyrff llywodraethu hynny wedi penderfynu yn yr un modd i ffedereiddio;

(b)

maint arfaethedig corff llywodraethu y ffederasiwn;

(c)

y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

(ch)

y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio'r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(d)

y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

(dd)

enw'r awdurdod derbyn neu enwau'r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(e)

erbyn pa ddyddiad, ar ôl cyfnod o ddim llai na chwe wythnos ar ôl cyhoeddi'r cynigion, y ceir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynglŷn â'r cynigion, ac i ba gyfeiriad y dylid eu hanfon; ac

(f)

unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y cyrff llywodraethu.

(3)

Rhaid i'r cyrff llywodraethu sy'n bwriadu ffedereiddio gyhoeddi'r cynigion drwy eu hanfon at—

(a)

yr awdurdodau lleol perthnasol;

(b)

pennaeth pob un o'r ysgolion;

(c)

yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

(i)

y llywodraethwyr sefydledig; a

(ii)

ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;

(ch)

pan fo unrhyw rai o'r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu'r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o'r fath;

(d)

yr holl staff y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion;

(dd)

pob person y gwyddant ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn unrhyw un o'r ysgolion;

(e)

pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion; ac

(f)

pa bynnag bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan y cyrff llywodraethu.

(4)

Rhaid rhoi copi o'r cynigion ar gael i'w archwilio ar bob adeg resymol ym mhob un o'r ysgolion.

(5)

Rhaid i'r dyddiad ffedereiddio arfaethedig y cyfeirir ato ym mharagraff 2(d) fod yn ddim llai na 125 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol â pharagraff (1).

7.

(1)

Rhaid i'r cyrff llywodraethu sy'n bwriadu ffedereiddio ystyried ar y cyd unrhyw ymatebion i'r cynigion, a rhaid i bob corff llywodraethu benderfynu naill ai—

(a)

mynd ymlaen â'r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y'u cyhoeddwyd;

(b)

mynd ymlaen â'r cynigion ar gyfer ffedereiddio gyda pha bynnag addasiadau a ystyrir yn briodol gan y corff llywodraethu; neu

(c)

peidio â mynd ymlaen â'r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

(2)

Rhaid i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu sy'n bwriadu ffedereiddio.

(3)

Rhaid i'r holl gyrff llywodraethu sydd wedi penderfynu mynd ymlaen hysbysu, ar y cyd, yr awdurdod lleol neu'r awdurdodau lleol perthnasol o'r ffaith honno.

Ysgolion newydd sy'n dymuno ffedereiddio

8.

(1)

Pan gynigir bod ysgol newydd yn ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion neu â ffederasiwn, mae paragraff (2) neu (3) yn gymwys fel y bo'n briodol.

(2)

Pan fo corff llywodraethu dros dro wedi ei sefydlu, mae rheoliadau 4 i 7 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at gorff llywodraethu sy'n bwriadu ffedereiddio yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu dros dro sy'n bwriadu ffedereiddio.

(3)

Pan nad oes corff llywodraethu dros dro eto wedi ei sefydlu, mae rheoliadau 4 i 7 yn cael effaith fel pe bai—

(a)

cyfeiriadau at gorff llywodraethu sy'n bwriadu ffedereiddio yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol neu, pan fo'r cynigion ar gyfer sefydlu ysgol sefydledig neu wirfoddol, ac y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer ei sefydlu gan hyrwyddwyr, yr hyrwyddwyr;

(b)

rheoliad 4(2) wedi ei hepgor; ac

(c)

yn rheoliad 6(2)(a), y geiriau “y mae'r awdurdod lleol neu'r hyrwyddwyr yn cynnig y dylai corff llywodraethu dros dro yr ysgol newydd ffedereiddio â hwy” wedi eu gosod yn lle “y mae'r corff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio â hwy”.

9.

(1)

Mae Rhannau 1 i 3 a 5 i 7 o'r Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir i fod yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â'r rheoliad hwn.

(2)

Pan gynigir y dylai dwy neu ragor o ysgolion newydd ffedereiddio, gyda neu heb un neu ragor o ysgolion eraill neu ffederasiwn arall, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau sy'n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.

(3)

Pan fo'r ffederasiwn a gynigir yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau lleol hynny gytuno ymysg ei gilydd, pa awdurdod lleol gaiff wneud trefniadau sy'n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.

(4)

Pan fo un neu ragor o'r ysgolion newydd y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod yn ysgol sefydledig neu wirfoddol, y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer eu sefydlu gan hyrwyddwyr, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r hyrwyddwyr ynglŷn ag—

(a)

a ddylid arfer y pŵer a roddir i'r awdurdod lleol ym mharagraff (2); a

(b)

os yw'r awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ar ba ddyddiad y dylid gwneud y trefniadau.

(5)

Mae Atodlen 1 yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â'r rheoliad hwn.

Ymgorffori cyrff llywodraethu ffederasiynau a diddymu cyrff llywodraethu blaenorol

10.

(1)

Ar y dyddiad ffedereiddio—

(a)

diddymir cyrff llywodraethu'r ysgolion neu'r ffederasiynau sy'n ffedereiddio;

(b)

ymgorfforir corff llywodraethu y ffederasiwn;

(c)

mae'r holl dir ac eiddo, a ddelid yn union cyn y dyddiad ffedereiddio gan gorff llywodraethu ysgol neu ffederasiwn sy'n ffedereiddio, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu'r ffederasiwn, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael eu breinio yng nghorff llywodraethu'r ffederasiwn; ac

(ch)

mae'r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad ffedereiddio ac a gaffaelwyd gan neu a achoswyd i gorff llywodraethu ysgol neu ffederasiwn sy'n ffedereiddio yn trosglwyddo i gorff llywodraethu y ffederasiwn.

(2)

Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 198810 (sydd, ynghyd ag Atodlen 10 i'r Ddeddf honno, yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â throsglwyddiadau eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae'r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR

Rhiant-lywodraethwyr11.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw person—

(a)

a etholir yn unol â pharagraffau 3 i 8 o Atodlen 2 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgol ffederal ac sydd ei hunan yn rhiant o'r fath ar yr adeg yr etholir ef; neu

(b)

a benodir yn rhiant-lywodraethwr mewn perthynas ag ysgol ffederal yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 2.

(2)

Mae Atodlen 2 yn gymwys ar gyfer ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.

(3)

Anghymhwysir person rhag ei ethol neu ei benodi yn rhiant-lywodraethwr ffederasiwn–

(a)

os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod lleol;

(b)

os yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu

(c)

os cyflogir ef i weithio yn yr ysgol yn y ffederasiwn am fwy na 500 awr yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.

(4)

Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd fel rhiant-lywodraethwr pan yw'n peidio â bod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal neu'n peidio â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 2 (yn ôl fel y digwydd) onid anghymhwysir ef rywfodd arall o dan y Rheoliadau hyn.

Athro-lywodraethwyr12.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—

(a)

a etholir yn llywodraethwr yn unol ag Atodlen 3 gan athrawon ysgol mewn unrhyw ysgol yn y ffederasiwn; a

(b)

sydd ei hunan yn athro neu athrawes ysgol o'r fath ar yr adeg y'i hetholir.

(2)

Pan fo'n peidio â gweithio yn yr ysgol, anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn athro-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

(a)

os etholwyd ef yn athro-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu

(b)

os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn athro-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.

(4)

Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.

Staff-lywodraethwyr13.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

(a)

a etholir yn unol ag Atodlen 3 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan bersonau a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; a

(b)

sydd ei hunan yn berson sy'n gweithio felly ar yr adeg yr etholir ef.

(2)

Pan fo'n peidio â gweithio mewn ysgol o fewn y ffederasiwn, anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn staff-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

(a)

os etholwyd ef yn staff-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu

(b)

os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn staff-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.

(4)

Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.

Llywodraethwyr awdurdod lleol14.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod lleol” (“local authority governor”) yw llywodraethwr a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgolion ffederal.

(2)

Pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau hynny gytuno ymysg ei gilydd ynglŷn â phwy fydd yn penodi y cyfryw lywodraethwyr ac, os oes rhagor nag un llywodraethwr i'w penodi, ym mha gyfrannedd.

(3)

Anghymhwysir person rhag ei benodi neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr awdurdod lleol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr.

Llywodraethwyr cymunedol a llywodraethwyr cymunedol ychwanegol15.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn ac—

    1. (a)

      sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; neu

    2. (b)

      sy'n berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, ag ymroddiad i lywodraethu da ac i lwyddiant y ffederasiwn;

  • ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 28.

(2)

Anghymhwysir person rhag ei benodi yn llywodraethwr cymunedol, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol—

(a)

os yw'n ddisgybl cofrestredig yn un o'r ysgolion ffederal;

(b)

os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr; neu

(c)

os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod lleol.

(3)

Nid yw paragraff (2) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.

Llywodraethwyr sefydledig16.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn mewn perthynas ag ysgol ffederal benodol, ac eithrio gan yr awdurdod lleol ac—

(i)

pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd â chymeriad crefyddol11 penodol, a benodir at y diben o sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw yn yr ysgol ffederal honno;

(ii)

pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd ag ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â hi, a benodir at y diben o sicrhau y cynhelir yr ysgol ffederal yn unol â'r ymddiriedolaeth honno; neu

(iii)

pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol nad oes iddi gymeriad crefyddol nac ymddiriedolaeth, a benodir yn llywodraethwr sefydledig y ffederasiwn gan berson a enwyd yn flaenorol yn offeryn llywodraethu'r ysgol ffederal fel un sydd â phŵer i benodi llywodraethwyr sefydledig;

(b)

ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sydd â'r hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd swydd a ddelir ganddo sy'n rhoi yr hawl honno;

(c)

ystyr “dirprwy-lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio—

(i)

sy'n anfodlon neu'n analluog i weithredu fel llywodraethwr;

(ii)

a ddiswyddwyd o fod yn llywodraethwr o dan reoliad 35(2); neu

(iii)

pan fo'r swydd y mae swydd llywodraethwr o'r fath yn deillio ohoni yn wag.

(2)

Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath pan fo'n peidio â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

Llywodraethwyr partneriaeth17.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 4.

(2)

Anghymhwysir person rhag ei enwebu neu ei benodi yn llywodraethwr partneriaeth mewn ffederasiwn—

(a)

os yw'n rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;

(b)

os yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;

(c)

os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr y ffederasiwn;

(ch)

os yw'n aelod etholedig o awdurdod lleol perthnasol; neu

(d)

os yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.

Noddwr-lywodraethwyr18.

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn yn unol ag Atodlen 5.

Llywodraethwyr cynrychiadol19.

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychiadol” (“representative governor”) yw person a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 6.

Disgybl-lywodraethwyr cyswllt20.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” (“associate pupil governor”) yw disgybl cofrestredig a enwebir gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ffederal, ac a benodir fel y cyfryw gan y corff llywodraethu ffederal yn unol â rheoliad 7 o'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol.

(2)

Y nifer mwyaf o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu ffederal yw dau.

RHAN 4CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU FFEDERASIWN

Egwyddorion cyffredinol21.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn bennu maint aelodaeth ar gyfer corff llywodraethu'r ffederasiwn, na chaiff fod yn llai na 15 llywodraethwr nac yn fwy na 25.

(2)

Wrth benderfynu maint aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn, rhaid peidio â chynnwys unrhyw noddwr-lywodraethwyr a disgybl-lywodraethwyr cyswllt a benodir yn unol â rheoliadau 22 i 28 nac unrhyw lywodraethwyr sefydledig ychwanegol a benodir yn unol â rheoliad 25(2)(b).

(3)

Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu rhaid cynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol a benodir yn unol â rheoliad 28.

(4)

Yn ddarostyngedig i reoliadau 22 i 28, rhaid i'r offeryn llywodraethu bennu'r niferoedd o lywodraethwyr sydd i'w hethol neu eu penodi o bob un o'r categorïau o lywodraethwyr canlynol—

(a)

rhiant-lywodraethwyr;

(b)

athro-lywodraethwyr;

(c)

staff-lywodraethwyr;

(ch)

llywodraethwyr awdurdod lleol;

(d)

llywodraethwyr cymunedol;

(dd)

llywodraethwyr sefydledig;

(e)

llywodraethwyr partneriaeth;

(f)

noddwr-lywodraethwyr;

(ff)

llywodraethwyr cynrychiadol; ac

(g)

llywodraethwyr cymunedol ychwanegol.

(5)

Os yw cymhwyso'r rheoliad hwn a rheoliadau 22 i 28 yn cynhyrchu Rhif nad yw'n gyfanrif, rhaid i'r corff llywodraethu bennu naill ai'r cyfanrif nesaf uwchlaw neu'r cyfanrif nesaf islaw (yn ôl dewis y corff llywodraethu) ar yr amod na chaiff cyfanswm nifer y llywodraethwyr fod yn uwch na'r terfyn a bennir yn y rheoliad hwn.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir yn unig22.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir12 (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) gynnwys y canlynol—

(a)

o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)

o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)

o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)

o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)

yn ddarostyngedig i is-baragraff (dd), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)

o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle nifer cyfartal o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(e)

pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2)

Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)

penodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)

penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion sefydledig neu ysgolion arbennig sefydledig yn unig23.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion sefydledig neu ysgolion arbennig sefydledig13 yn unig gynnwys y canlynol—

(a)

o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)

o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)

o leiaf un, ond dim mwy na dau staff–lywodraethwr;

(ch)

o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)

o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)

o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig (neu lywodraethwyr partneriaeth, fel y bo'n briodol mewn perthynas ag unrhyw ysgol heb sefydliad); ac

(e)

pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2)

Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)

benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)

penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir yn unig24.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir14 yn unig gynnwys y canlynol—

(a)

o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal i gael ei ethol neu ei benodi yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)

o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)

o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)

o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)

o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)

o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig; ac

(e)

pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2)

Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)

penodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)

penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn unig25.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir15 yn unig gynnwys y canlynol—

(a)

ar gyfer pob ysgol ffederal o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)

o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)

o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)

o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)

y cyfryw nifer o lywodraethwyr sefydledig ag y bo ddau yn fwy na chyfanswm nifer yr holl lywodraethwyr eraill a restrir yn is-baragraffau (a) i (ch); ac

(dd)

pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2)

Yn ychwanegol—

(a)

caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn yn ychwanegol—

(i)

benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(ii)

penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd;

(b)

caiff y personau sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr sefydledig ag y bo'n ofynnol i gadw eu mwyafrif, ond dim mwy na dau.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir26.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys o leiaf un ysgol wirfoddol a reolir ac o leiaf un ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir a dim un categori arall o ysgol gynnwys y canlynol—

(a)

o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)

o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)

o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)

o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)

yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)

o leiaf un llywodraethwr sefydledig;

(e)

o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(f)

pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2)

Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn—

(a)

benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)

penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys mwy nag un categori o ysgol gan gynnwys o leiaf un ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir27.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys—

(a)

rhagor nag un categori o ysgol, a

(b)

o leiaf un ysgol sefydledig, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir,

gael ei gyfansoddi yn unol â pharagraff (2).

(2)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gynnwys y canlynol—

(a)

ar gyfer pob ysgol ffederal o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)

o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)

o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)

o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)

yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)

o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig (neu lywodraethwyr partneriaeth, fel y bo'n briodol, mewn perthynas ag unrhyw ysgol heb sefydliad);

(e)

o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(f)

pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(3)

Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)

benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)

penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol28.

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys un neu ragor o'r canlynol—

(a)

unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy'n ysgol gynradd; a

(b)

unrhyw ysgol feithrin a gynhelir;

sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.

(2)

Rhaid i'r offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol ddarparu bod corff llywodraethu ffederasiwn yn cynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 22 i 27 yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol a enwebir gan y cyngor cymuned.

(3)

Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.

Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau29.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod a benodwyd i'r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, ddau fis o leiaf cyn y dyddiad y daw cyfnod swydd aelod a benodwyd i ben, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

(3)

Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person sydd â'r hawl i benodi person i'r swydd dan sylw eisoes wedi hysbysu clerc y corff llywodraethu ynghylch y person a benodir neu a enwebir.

(4)

Pan fo unrhyw berson ac eithrio corff llywodraethu yn gwneud penodiad neu'n enwebu person i'w benodi i'r corff llywodraethu, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penodiad neu'r enwebiad i glerc y corff llywodraethu, gan nodi enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir felly.

(5)

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod a benodwyd” (“appointed member”) yw—

(a)

llywodraethwr sefydledig;

(b)

llywodraethwr awdurdod lleol;

(c)

llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);

(ch)

llywodraethwr cynrychiadol;

(d)

noddwr-lywodraethwr; ac

(dd)

llywodraethwr partneriaeth.

Cyd-benodiadau30.

Os yw—

(a)

offeryn llywodraethu ysgol yn darparu bod un neu ragor o'r llywodraethwyr i'w penodi gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd; a

(b)

y personau hynny yn methu â chytuno ar benodiad;

rhaid i'r penodiad gael ei wneud gan Weinidogion Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir ganddynt.

Llywodraethwyr gormodol31.

(1)

Pan fo gan ffederasiwn ragor o lywodraethwyr mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol, rhaid i ba bynnag nifer o lywodraethwyr yn y categori hwnnw sy'n ofynnol er mwyn dileu'r gormodedd beidio â dal swydd, yn unol â pharagraffau (2) a (3), oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.

(2)

Penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal swydd ar sail hyd eu gwasanaeth, a'r llywodraethwyr sydd â'r cyfnodau mewn swydd cyfredol byrraf fel llywodraethwyr mewn unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.

(3)

Pan fo angen, at ddibenion paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr allan o grŵp sy'n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

(4)

At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir llywodraethwyr cymunedol ychwanegol fel pe baent yn gategori o lywodraethwyr ar wahân.

RHAN 5CYMWYSIADAU A DEILIADAETH SWYDD

Cymwysiadau ac anghymwysiadau32.

Yn Atodlen 7 nodir o dan ba amgylchiadau y mae person yn gymwys ar gyfer, neu wedi ei anghymhwyso rhag dal neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Cyfnod swydd33.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), mae llywodraethwr yn dal ei swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o'r dyddiad y'i hetholir neu y'i penodir.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy'n bennaeth y ffederasiwn neu'n bennaeth ysgol ffederal, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y bo'n parhau yn y swydd y mae ei swydd llywodraethwr yn deillio ohoni.

(3)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.

(4)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithredol interim a benodir o dan adrannau 1616, 16A17, 1818 neu 18A19 o Ddeddf 1998, y pennir cyfnod ei swydd gan y person sy'n ei benodi, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.

(5)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr sydd i ddal swydd am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y'i penodir.

(6)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir a fydd yn dal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

(7)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt a fydd yn dal swydd am gyfnod o un flwyddyn o ddyddiad ei benodi. Nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi ar ddiwedd ei gyfnod mewn swydd.

(8)

Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o'r canlynol—

(a)

diwedd pedair blynedd o'r dyddiad y daw ei benodiad i rym;

(b)

y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (onid yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 35(2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall weithredu fel llywodraethwr sefydledig a'i fod yn fodlon gwneud hynny; neu

(c)

y dyddiad y bydd person ar wahân i'r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o'i herwydd.

(9)

Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—

(a)

cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)

ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34(1);

(c)

cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 35 i 37; neu

(ch)

cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.

(10)

Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.

Ymddiswyddo34.

(1)

Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(2)

Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(3)

Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai'n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn rhagfarnu swydd llywodraethwr ex officio ei olynydd yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.

Diswyddo llywodraethwyr awdurdod lleol, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr cynrychiadol, llywodraethwyr cymunedol ychwanegol a noddwr-lywodraethwyr35.

(1)

Caiff y person a'i penododd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr awdurdod lleol, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychiadol, a rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir felly.

(2)

Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â'r hawl i'w ddiswyddo, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir felly.

(3)

Caiff y person a'i henwebodd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir felly.

Diswyddo llywodraethwyr cymunedol36.

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 38.

Diswyddo rhiant-lywodraethwyr a benodwyd, llywodraethwyr partneriaeth a disgybl-lywodraethwyr cyswllt37.

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 9 i 11 o Atodlen 2 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 38.

Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr gan y corff llywodraethu38.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 36 neu 37.

(2)

Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn effeithiol oni bai—

(a)

bod y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr sy'n cynnig ei ddiswyddo, cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r llywodraethwr, yn nodi yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny ac y rhoddir cyfle i'r llywodraethwr y cynigir ei ddiswyddo wneud datganiad i ymateb; a

(b)

y pennir mater diswyddo'r llywodraethwr fel eitem o fusnes ar agenda'r cyfarfod.

(3)

Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r person a ddiswyddir, mewn ysgrifen, o'r rhesymau dros y diswyddo.

RHAN 6OFFERYN LLYWODRAETHU, STAFFIO, CYNGHORAU YSGOL A STATWS ELUSENNOL

Y ddyletswydd i ystyried canllawiau39.

Mewn perthynas â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt, eu ffurf, ac adolygu ac amrywio'r cyfryw offerynnau, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu40.

(1)

Rhaid i offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn nodi—

(a)

enw'r ffederasiwn;

(b)

enwau a chategorïau'r ysgolion ffederal o fewn y ffederasiwn;

(c)

enw corff llywodraethu'r ffederasiwn;

(ch)

yn ddarostyngedig i baragraff (4), y modd y cyfansoddir y corff llywodraethu yn unol â Rhan 4, gan bennu—

(i)

nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr;

(ii)

y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a

(iii)

cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;

(d)

os yw cyfnod swydd unrhyw gategori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;

(dd)

os oes gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig—

(i)

enw unrhyw berson sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr o'r fath ac, os oes mwy nag un person o'r fath â'r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o'r fath;

(ii)

manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir; a

(iii)

enw unrhyw berson sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;

(e)

os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi yn llywodraethwr cynrychioladol o dan Atodlen 6;

(f)

os oes ymddiriedolaeth yn gysylltiedig ag ysgol ffederal, y ffaith honno;

(ff)

os yw ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad unigol o ethos crefyddol pob ysgol o'r fath; ac

(g)

y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym.

(2)

Rhaid i'r modd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y'i nodir yn unol ag is-baragraff (1)(ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(3)

Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol ffederal.

(4)

Nid yw is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn41.

(1)

Yn y rheoliad hwn, pan gyfeirir at awdurdod lleol a phan fo'r ffederasiwn i gynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol, rhaid dehongli'r cyfeiriad fel cyfeiriad at ba un bynnag o'r awdurdodau lleol hynny y mae cyrff llywodraethu'r ysgolion yn cytuno rhyngddynt y dylai wneud yr offeryn llywodraethu ar gyfer y ffederasiwn.

(2)

Rhaid i gyrff llywodraethu'r ysgolion sydd i ffurfio'r ffederasiwn baratoi offeryn llywodraethu drafft ar y cyd a'i gyflwyno i'r awdurdod lleol.

(3)

Os bydd gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i gyrff llywodraethu'r ffederasiwn arfaethedig beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod lleol hyd nes bydd wedi ei gymeradwyo mewn perthynas â phob ysgol sefydledig neu wirfoddol gan—

(a)

lywodraethwyr sefydledig yr ysgol honno;

(b)

ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol o'r fath;

(c)

yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac

(ch)

yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)

Os—

(a)

yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod y drafft yn cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau cymwys; neu

(b)

os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y cyrff llywodraethu a'r personau (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a grybwyllir ym mharagraff (3), y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys;

rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.

(5)

Yn achos ffederasiwn y bydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â chynnwys y drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny gyfeirio'r drafft at Weinidogion Cymru, a rhaid i'r Gweinidogion roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried yn benodol y categorïau o ysgolion y bwriedir eu cynnwys yn y ffederasiwn.

(6)

Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ffederasiwn na fydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)

roi gwybod i gorff llywodraethu y ffederasiwn pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft; a

(b)

rhoi cyfle rhesymol i gorff llywodraethu y ffederasiwn ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;

a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a chorff llywodraethu y ffederasiwn yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion a gynhwysir yn y ffederasiwn.

Adolygu offerynnau llywodraethu42.

(1)

Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.

(2)

Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.

(3)

Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.

(4)

Pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio ag—

(a)

rhoi i'r awdurdod lleol unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2); na

(b)

hysbysu'r awdurdod lleol o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod lleol;

oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 41(3) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.

(5)

Os—

(a)

yw y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol, pa un bynnag sy'n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â'r amrywiad a gynigir; neu

(b)

os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu a'r personau eraill (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a restrir yn rheoliad 41(3) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach;

rhaid i'r awdurdod lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

(6)

Yn achos ffederasiwn sydd â llywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a restrir yn rheoliad 41(3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Weinidogion Cymru ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Gweinidogion roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.

(7)

Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ffederasiwn nad oes ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)

rhoi gwybod i'r corff llywodraethu y rhesymau—

(i)

pam nad yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu neu, yn ôl fel y digwydd;

(ii)

pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun; a

(b)

rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;

a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.

(8)

Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn i olygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.

(9)

Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn rhaid i'r offeryn nodi'r dyddiad y daw'r amrywiad i rym.

Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu43.

(1)

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau y darperir (yn ddi-dâl) i'r personau a nodir ym mharagraff (2)–

(a)

copi o offeryn llywodraethu'r ffederasiwn; a

(b)

os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu'r ffederasiwn, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).

(2)

I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

(a)

pob aelod o gorff llywodraethu'r ffederasiwn;

(b)

pennaeth y ffederasiwn neu bennaeth pob ysgol ffederal, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio;

(c)

ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol ffederal;

(ch)

yn achos un o ysgolion ffederal yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol ffederal yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol;

(d)

yn achos unrhyw ysgol ffederal arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol; ac

(dd)

Gweinidogion Cymru.

Staffio ffederasiynau44.

Mae'r Rheoliadau Staffio yn gymwys i staffio ffederasiynau, yn ddarostyngedig i'r addasiadau yn Atodlen 8.

Rheoliadau Cynghorau Ysgol45.

Mae'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn ac i'w aelodau, yn ddarostyngedig i'r addasiadau yn Atodlen 9.

Statws elusennol ffederasiynau46.

(1)

Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig yn elusen sy'n elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 199320, ond nid yw corff llywodraethu unrhyw ffederasiwn yn elusen os yw'r ffederasiwn yn cynnwys, yn unig, ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir.

(2)

Cyn belled ag y bo'n elusen, rhaid i unrhyw sefydliad—

(a)

a weinyddir gan neu ar ran unrhyw gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig; a

(b)

a sefydlwyd at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw bwrpas arbennig, neu mewn cysylltiad â'r corff hwnnw neu'r ffederasiwn hwnnw neu unrhyw ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig o fewn y ffederasiwn hwnnw;

hefyd fod yn elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 1993.

(3)

Yn y rheoliad hwn, mae i “elusen” a “sefydliad” yr un ystyron ag y sydd i “charity” ac “institution”, yn eu trefn, yn Neddf Elusennau 1993.

RHAN 7PENODI SWYDDOGION, EU SWYDDOGAETHAU A'U DISWYDDO

Ethol y cadeirydd a'r is-gadeirydd47.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 199821 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.

(2)

Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal neu sy'n ddisgybl mewn ysgol ffederal yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is–gadeirydd corff llywodraethu'r ffederasiwn dan sylw.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is–gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).

(4)

Caiff y cadeirydd neu'r is–gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(5)

Daw swydd y cadeirydd neu'r is–gadeirydd i ben—

(a)

pan fydd yn peidio â bod yn aelod o'r corff llywodraethu;

(b)

os telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal dan sylw;

(c)

os diswyddir ef yn unol â rheoliad 49 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu

(ch)

yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.

(6)

Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'i aelodau i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.

(7)

Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.

(8)

Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.

(9)

Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'i aelodau i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(10)

Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.

Dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys48.

(1)

Caiff y cadeirydd, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 59(1).

(2)

Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—

(a)

y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)

unrhyw ddisgybl mewn ysgol ffederal, neu ei riant; neu

(c)

person sy'n gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.

(3)

Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu gyfarfod o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.

(4)

Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—

(a)

fod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys; a

(b)

na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd;

rhaid darllen y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.

Diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd49.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.

(3)

Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 54(7).

(4)

Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.

Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu50.

(1)

Ni fydd y rheoliad hwn yn rhagfarnu ar unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod lleol.

(2)

Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.

(3)

Rhaid i glerc y corff llywodraethu beidio â bod—

(a)

yn llywodraethwr;

(b)

yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu; nac

(c)

yn bennaeth y ffederasiwn neu'n bennaeth ysgol ffederal.

(4)

Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os yw'r clerc yn methu â bod yn bresennol yn un o'i gyfarfodydd, benodi unrhyw un o blith ei aelodau (ond nid pennaeth y ffederasiwn na phennaeth ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(5)

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.

(6)

Os nad oes gan yr un ysgol ffederal, ar unrhyw adeg, gyllideb ddirprwyedig22, caiff yr awdurdod lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi un yn ei le, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu felly.

Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu51.

(1)

Rhaid i glerc y corff llywodraethu—

(a)

gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 54;

(b)

bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau y cynhyrchir cofnodion o'r trafodion yn unol â rheoliad 56(1);

(c)

cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;

(ch)

cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;

(d)

rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 29 (hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 34 (ymddiswyddo), 35 (diswyddo llywodraethwyr), 47(4) (ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 54(4) (cynnull cyfarfodydd) o'r Rheoliadau hyn, a pharagraff 13 o Atodlen 7 (hysbysiad o anghymhwyso) i'r Rheoliadau hyn;

(dd)

adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy'n ofynnol ar gyflawni ei swyddogaethau; ac

(e)

cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

(2)

Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor i'r corff llywodraethu ynglŷn â'i swyddogaethau a'i weithdrefnau.

RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu52.

Yn ddarostyngedig i reoliadau 53 a 72 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 10 i'r Rheoliadau hyn mae hawl gan y personau canlynol i fod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—

(a)

yn ddarostyngedig i reoliad 58, llywodraethwr;

(b)

pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio);

(c)

clerc y corff llywodraethu; ac

(ch)

personau eraill fel a benderfynir gan y corff llywodraethu.

Allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o gyfarfodydd53.

Rhaid i'r corff llywodraethu allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan y corff llywodraethu sy'n ymwneud ag:

(a)

penodiadau staff, tâl y staff, disgyblu staff, rheoli perfformiad y staff, achwyniadau a gyflwynir gan y staff neu ddiswyddo staff;

(b)

derbyn disgyblion;

(c)

disgyblu disgyblion unigol;

(ch)

ethol, penodi a diswyddo llywodraethwyr;

(d)

y gyllideb ac ymrwymiadau ariannol y corff llywodraethu;

(dd)

yn achos ysgol wirfoddol ffederal a gynorthwyir, y weithred ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol honno; neu

(e)

unrhyw fater arall y bodlonir y corff llywodraethu ei fod, oherwydd ei natur, yn gyfrinachol ac y dylai barhau yn gyfrinachol.

Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu54.

(1)

Rhaid i'r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.

(2)

Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac wrth arfer y swyddogaeth hon, heb amharu ar baragraff (3), rhaid i'r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)

y corff llywodraethu; neu

(b)

y cadeirydd, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(3)

Caiff unrhyw dri aelod o'r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r clerc sy'n cynnwys crynodeb o'r busnes sydd i'w drafod; a rhaid i'r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i'r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—

(a)

bob llywodraethwr;

(b)

pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); ac

(c)

yr awdurdod lleol.

(5)

Pan fo'r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, y copi o'r agenda, yr adroddiadau a'r papurau eraill sydd i'w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd.

(6)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—

(a)

diswyddo'r cadeirydd neu is-gadeirydd;

(b)

atal unrhyw lywodraethwr;

(c)

diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr; neu

(ch)

penderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 30 o Ddeddf 1998;

i gael ei ystyried.

(7)

Pan fo paragraff (6) yn gymwys—

(a)

rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod, copi o'r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i'w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a

(b)

nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.

(8)

Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau'r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.

(9)

Ni fydd cyfarfod o'r corff llywodraethu a'i drafodion yn cael eu hannilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod neu gopi o'r agenda.

Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu55.

(1)

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 58.

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau'r llywodraethwyr sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(3)

Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu.

(4)

Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o'r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(5)

Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad i gau ysgol ffederal o dan adran 3023 o Ddeddf 1998 yn effeithiol, pa un a wneir y penderfyniad gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir ar ôl cyfnod o wyth ar hugain o ddiwrnodau gwaith o leiaf, ar ôl y cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—

(a)

oni phennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda'r ddau gyfarfod; a

(b)

oni roddir hysbysiad o'r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 54(7).

(6)

Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu oherwydd—

(a)

unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;

(b)

unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;

(c)

unrhyw ddiffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd; neu

(ch)

bod mwy o lywodraethwyr gan y ffederasiwn mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu24.

Cofnodion a phapurau56.

(1)

Rhaid i'r clerc (neu'r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 50(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o'r corff llywodraethu'n cael eu llunio a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.

(2)

Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu rhoi mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu rhoi ar dudalennau rhyddion wedi eu Rhif o'n olynol; ond os gwneir hynny rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion dorri llythrennau ei enw ar bob tudalen.

(3)

Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu'n union cyn y nodyn sy'n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau'r aelodau hynny o'r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.

(4)

Rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft, neu o gofnodion llofnodedig cyfarfod penodol i'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol dan sylw os gofynnir amdano gan yr awdurdod dan sylw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau57.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copïau o'r canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r ysgolion ffederal, gan unrhyw berson â diddordeb—

(a)

agenda pob cyfarfod;

(b)

cofnodion wedi'u llofnodi o bob cyfarfod o'r fath;

(c)

unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath; ac

(ch)

cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.

(2)

Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae'n ofynnol trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag—

(a)

person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; neu

(b)

disgybl yn yr ysgol sy'n cael ei enwi, neu un sy'n gwneud cais am le mewn ysgol ffederal; neu

(c)

unrhyw fater arall y mae'r corff llywodraethu yn fodlon y dylai barhau yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

(3)

Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi mai cofnodion drafft ydynt.

Atal llywodraethwyr58.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu, drwy benderfyniad, atal llywodraethwr o'r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at chwe mis am un neu ragor o'r rhesymau canlynol—

(a)

bod y llywodraethwr, ac yntau'n berson y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â'i gyflogaeth;

(b)

bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 7;

(c)

bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy'n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol ysgol ffederal ac wedi dwyn neu'n debygol o ddwyn anfri ar y ffederasiwn, ysgol ffederal, y corff llywodraethu neu ar ei swydd; neu

(ch)

bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i'r ffederasiwn neu ysgol ffederal neu i unrhyw aelod o'r staff neu i unrhyw ddisgybl yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.

(2)

Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o'i swydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 54(7).

(3)

Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i'r llywodraethwr sy'n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o'r cyfarfod yn unol â rheoliad 72(2).

(4)

Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd–

(a)

i gael hysbysiadau o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer; na

(b)

i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 38 i ystyried ei ddiswyddo;

yn ystod cyfnod ei ataliad.

(5)

Ni ddylid darllen dim yn y rheoliad hwn fel petai'n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau penodol pellach, pa un a yw am yr un rheswm â'r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.

(6)

Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 7 am beidio â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.

Dirprwyo swyddogaethau59.

(1)

Yn ddarostyngedig i reoliad 60 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 199825 a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 200026, caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau—

(a)

i bwyllgor;

(b)

i unrhyw lywodraethwr; neu

(c)

i bennaeth y ffederasiwn neu bennaeth ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio).

(2)

Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hynny yn rhwystro'r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(3)

Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu yn flynyddol y modd yr arferir swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig60.

(1)

Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 59(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

(a)

y rhai hynny yn Rhan 3 (categorïau o lywodraethwyr);

(b)

y rhai hynny yn Rhan 4 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederasiwn);

(c)

y rhai hynny yn Rhan 5 (diswyddo llywodraethwyr);

(ch)

y rhai hynny yn Rhan 6 (offerynnau llywodraethu);

(d)

rheoliadau 47 a 49 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(dd)

rheoliad 50 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(e)

rheoliad 58 (atal llywodraethwyr);

(f)

rheoliad 59 (dirprwyo swyddogaethau);

(ff)

rheoliad 63 (sefydlu pwyllgorau);

ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn perthynas â phanelau dethol pennaeth a dirprwy bennaeth o dan reoliadau 10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34 o'r Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8).

(2)

Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 59(1)—

(a)

y swyddogaethau:

(i)

yn adrannau 2827, 2928, 3029 a 3130 o Ddeddf 1998 a pharagraff 10(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (Newid neu gau ysgolion a gynhelir);

(ii)

yn adrannau 28 a 31 o Ddeddf 1998 fel y maent yn effeithiol yn rhinwedd Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 mewn perthynas â chynigion o dan yr Atodlen honno (Newid categori ysgolion a gynhelir);

(iii)

mewn cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1)31 o Ddeddf 1998, i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;

(iv)

yn adran 61(1) i (3) o Ddeddf 1998 (polisïau disgyblu ysgolion);

(v)

yn adrannau 8832, 8933, 89A34 a 90(8)35 o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn), adran 90(1)36) o Ddeddf 1998 (sy'n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), neu adran 9437) o Ddeddf 1998 i'r graddau y mae'n ymwneud â phenderfynu ynghylch trefniadau apêl gan y corff llywodraethu;

(vi)

yn adran 6338 o Ddeddf 1998 (targedau presenoldeb ysgol);

(vii)

yn adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion presenoldeb ysgol);

(viii)

yn adrannau 95(2) a 97(3)39 o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn); neu

(b)

swyddogaethau y mae'n rhaid eu dirprwyo i'r pwyllgorau fel a bennir yn rheoliadau 64 i 66.

Adrodd wrth y corff llywodraethu ar ôl arfer swyddogaethau dirprwyedig61.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo'r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i'r canlynol neu'n arferadwy fel arall gan y canlynol—

(a)

llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd);

(b)

pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); neu

(c)

pwyllgor.

(2)

Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno.

RHAN 9PWYLLGORAU CYRFF LLYWODRAETHU

Cymhwyso'r Rhan hon62.

Nid yw'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan reoliadau 10 neu 24 o'r Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8).

Sefydlu pwyllgorau y corff llywodraethu63.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau'r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 64, 65 a 66.

(2)

Rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu ar gyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu, a'u hadolygu'n flynyddol.

(3)

Rhaid i'r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i'r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.

(4)

Rhaid i bwyllgor ethol aelod o'r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).

(5)

Ni chaiff unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, nac un o ddisgyblion cofrestredig y ffederasiwn neu ysgol ffederal, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.

(6)

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.

(7)

Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys disgybl-lywodraethwyr cyswllt a phersonau nad ydynt yn llywodraethwyr, a mater i'w benderfynu gan y corff llywodraethu yw i ba raddau y bydd gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio.

(8)

Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo64.

(1)

Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ffederasiwn gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—

(a)

pan fo ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan reoliad 17(1) o'r Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8), y dylai unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal beidio â gweithio yno;

(b)

pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, y penderfyniad cychwynnol y dylid terfynu contract cyflogaeth person a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal â'r corff llywodraethu neu na ddylid adnewyddu ei gontract (ac eithrio pan fo'r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol o dan baragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002); a

(c)

gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.

(2)

Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn perthynas â phenderfyniad y mae'n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(3)

Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr, ond pan wneir honiadau yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i'r pwyllgor gynnwys o leiaf ddau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw'n llywodraethwr.

(4)

Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl a phan wneir honiadau yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i'r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff.

(5)

At ddibenion paragraffau (3) a (4), mae person i'w ystyried yn annibynnol yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)

pan nad yw'r person yn un o lywodraethwyr y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)

pan nad yw'r person yn rhiant disgybl cyfredol neu flaenorol yn yr ysgol ffederal;

(c)

pan nad yw'r person yn aelod cyfredol neu flaenorol o'r staff yn y ffederasiwn neu'r ysgol ffederal sydd dan sylw;

(ch)

pan nad yw'r person yn gyflogedig ar y pryd gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol ffederal sydd dan sylw.

(6)

Mae'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.

(7)

Pan fo'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(8)

Ni chaiff pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(9)

Ni fydd gan unrhyw aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw'n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw, ac eithrio'r aelod annibynnol yn y naill bwyllgor neu'r llall, a benodwyd yn unol â pharagraff (3) neu (4).

Y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion65.

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion)40.

(2)

Rhaid i'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt.

(3)

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o'r pwyllgor.

(4)

Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion) mewn achos—

(a)

pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai, o ganlyniad i'r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

(b)

pan fo'n ymddangos i'r cadeirydd na fyddai'n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o'r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o'r fath cyn y deuai'r amser i'r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.

Y pwyllgor derbyniadau66.

(1)

Os corff llywodraethu ffederasiwn yw'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol ffederal, rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i'r ysgol ffederal.

(2)

Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)

pennaeth yr ysgol ffederal y ceisir derbyniad iddi (y bydd ganddo hawl i bleidleisio, pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); a

(b)

o leiaf ddau lywodraethwr arall (ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt).

(3)

Yn achos ysgol ffederal sydd â mwy nag un pennaeth, dehongler y cyfeiriad ym mharagraff (2)(a) at y pennaeth fel cyfeiriad at un o'r penaethiaid.

(4)

Mae'r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un nifer â'r isafswm sy'n ofynnol ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.

Clercod pwyllgorau67.

(1)

Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 64 i 66 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.

(2)

Ni cheir penodi pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).

(3)

Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha'r clerc â bod yn bresennol mewn un o'u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o'u plith (ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(4)

Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o'i eiddo ar unrhyw adeg.

(5)

Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—

(a)

cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;

(b)

bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o'r trafodion; ac

(c)

cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn perthynas â'r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd pwyllgorau68.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 10 i'r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o bwyllgor—

(a)

unrhyw aelod o'r pwyllgor, ar yr amod nad yw'n llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 58;

(b)

pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio);

(c)

clerc y pwyllgor; ac

(ch)

pa bynnag bersonau eraill y bo'r corff llywodraethu neu'r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.

(2)

Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod y mae ganddo hawl fel arall i fod yn bresennol ynddo, pan fo'r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu â disgybl.

(3)

Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â'r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 64 a 65 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8).

Cyfarfodydd pwyllgorau69.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnull gan glerc y pwyllgor hwnnw ac mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth honno, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)

y corff llywodraethu;

(b)

cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i'r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o'r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(2)

Oni phenodwyd clerc, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau ac mae'n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.

(3)

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i'r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw, i bob aelod o'r pwyllgor ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n aelod o'r pwyllgor ai peidio)—

(a)

hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod;

(b)

copi o agenda'r cyfarfod; ac

(c)

unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;

ond bydd yn ddigon, pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny ar y sail bod materion sy'n galw am sylw brys, i'r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi'r ffaith honno ac i'r hysbysiad, yr agenda, a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd neu ei benderfyniad ef (yn ôl fel y digwydd).

(4)

Nid annilysir trafodion pwyllgor gan–

(a)

unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na

(b)

unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o'r pwyllgor.

(5)

Yn ddarostyngedig i reoliadau 64(6), 65(3) a 66(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(6)

Yn ddarostyngedig i baragraff (8), ni cheir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(7)

Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(8)

Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau70.

(1)

Rhaid llunio cofnodion o'r trafodion mewn cyfarfod o bwyllgor, gan glerc y pwyllgor neu gan y person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod; a rhaid eu llofnodi (yn ddarostyngedig i'w cymeradwyo gan y pwyllgor) gan gadeirydd y cyfarfod nesaf o'r pwyllgor.

(2)

Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i'w awdurdod lleol o gofnodion drafft neu gofnodion llofnodedig unrhyw un o'i gyfarfodydd, os gwneir cais am gopi gan yr awdurdod lleol hwnnw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau71.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r pwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi copïau o'r canlynol ar gael i'w harchwilio gan unrhyw un â diddordeb, ym mhob un o'r ysgolion ffederal sy'n ffurfio rhan o'r ffederasiwn—

(a)

yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o'r pwyllgor;

(b)

cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o'r fath; ac

(c)

unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.

(2)

Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

(a)

person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)

disgybl a enwir, neu ymgeisydd am le, yn y ffederasiwn;

(c)

unrhyw fater arall y bodlonir y pwllgor y dylai, oherwydd ei natur, barhau yn gyfrinachol.

RHAN 10CYFYNGIADAU AR BERSONAU RHAG CYMRYD RHAN YN NHRAFODION Y CORFF LLYWODRAETHU NEU EI BWYLLGORAU

Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan mewn trafodion72.

(1)

Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 10—

(a)

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw llywodraethwr, aelod o bwyllgor nad yw'n llywodraethwr, pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio) neu unrhyw berson a benodir yn glerc y corff llywodraethu neu bwyllgor; a

(b)

mae unrhyw gyfeiriad at “gyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal” (“meeting of the federation or a federated school”) yn gyfeiriad at gyfarfod o'r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan y Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8).

(2)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)

pan fo gwrthdaro yn bosibl, mewn perthynas ag unrhyw fater, rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau'r corff llywodraethu;

(b)

pan fo gwrandawiad teg yn ofynnol ac unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu

(c)

pan fo gan berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;

rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal lle mae'r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu'r buddiant sydd ganddo, mynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater dan sylw.

(3)

Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 10 fel pe bai'n atal—

(a)

y corff llywodraethu, neu bwyllgor, rhag—

(i)

caniatáu i berson sydd yn eu tyb hwy yn gallu rhoi tystiolaeth fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddynt ar unrhyw fater a chyflwyno ei dystiolaeth; neu

(ii)

glywed sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu

(b)

person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â'r corff llywodraethu y mae ganddo hawl i elwa oddi wrtho.

(4)

Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc i gyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 10 oni fo ei benodiad i swydd, ei dâl neu achos disgyblu yn ei erbyn o dan ystyriaeth, ond pe bai'r rheoliad hwn neu Atodlen 10 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd allan, ni chaiff weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.

(5)

Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw'n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 10, fynd allan o gyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal a pheidio â phleidleisio, mae'r cwestiwn hwnnw i'w benderfynu gan y llywodraethwyr eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(6)

Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau penodedig eraill o wrthdaro rhwng buddiannau.

RHAN 11GWYBODAETH A CHYLLIDO

Gwybodaeth ar gyfer corff llywodraethu ffederasiwn

73.

(1)

Yn union cyn y dyddiad ffedereiddio, rhaid i gorff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, at y diben o gynorthwyo corff llywodraethu'r ffederasiwn, baratoi adroddiad ysgrifenedig ar y camau a gymerwyd ganddo wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol.

(2)

Ar y dyddiad ffedereiddio, rhaid i holl gofnodion a phapurau corff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, gan gynnwys yr adroddiad a baratowyd o dan baragraff (1), gael eu rhoi ar gael i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

Ariannu ffederasiynau

74.

Ac eithrio fel a ddarperir gan reoliad 75, mae Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) yn gymwys i ysgolion ffederal a'u cyrff llywodraethu fel y mae'n gymwys i ysgolion eraill a gynhelir ac i'w cyrff llywodraethu.

75.

(1)

Wrth ei chymhwyso i ysgol ffederal yng Nghymru, ac eithrio ysgol ffederal y sefydlwyd corff llywodraethu dros dro ar ei chyfer yn unol â rheoliad 77 neu 82, bydd adran 5041 o Ddeddf 1998 (effaith dirprwyo ariannol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.

(2)

Yn is-adran (1), yn lle “maintained” rhodder “federated”.

(3)

Yn is-adran (2) yn lle “any amounts are made available by the authority to the governing body” rhodder “any amounts in respect of a federated school are made available by the local authority to the governing body of a federation”.

(4)

Yn is-adran (3)—

(a)

yn lle “the governing body may spend any such amounts” rhodder “the governing body of a federation may spend any amounts made available under subsection (2), or previously made available to the governing bodies of the federated schools before federation”; a

(b)

yn lle paragraff (a) rhodder—

“(a)

for any purposes of the federated school to which the amounts relate;

(ab)

for any purposes of any other federated school within the federation;

(ac)

for any purposes of the federation; or”.

(5)

Yn is-adran (4), yn lle “In subsection (3) “purposes of the school” does not include” rhodder “In subsection (3)(a), (ab) and (ac) any reference to the purposes of a federated school or a federation does not include”.

(6)

Yn is-adran (6), yn lle “the head teacher” rhodder “the head teacher of the federation or to the head teachers of federated schools”.

(7)

Yn is-adran (7), yn lle “school” rhodder “federation”.

RHAN 12YSGOLION FFEDERAL SY'N GADAEL FFEDERASIYNAU

Y weithdrefn i ysgol adael ffederasiwn76.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gais a wneir i gorff llywodraethu ffederasiwn am i ysgol ffederal (“yr ysgol berthnasol”) adael y ffederasiwn.

(2)

Rhaid gwneud y cais mewn ysgrifen a rhaid ei lofnodi gan—

(a)

dau neu ragor o lywodraethwyr;

(b)

un rhan o bump o rieni'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(c)

dwy ran o bump o'r staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(ch)

yr awdurdod lleol;

(d)

ymddiriedolwyr yr ysgol berthnasol; neu

(dd)

corff sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

(3)

Rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn hysbysu'r canlynol ynghylch y cais—

(a)

pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)

pennaeth y ffederasiwn a phenaethiaid pob un o'r ysgolion ffederal;

(c)

pan fo'r ysgol berthnasol yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol berthnasol ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu'r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o'r fath;

(ch)

yr holl staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(d)

pob person y gwyddant ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(dd)

pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau sy'n cael eu cyflogi i weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion; ac

(e)

pa bynnag bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

(4)

Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (3) gael ei roi o fewn y cyfnod o bum niwrnod gwaith clir sy'n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y cais.

(5)

Ystyrir bod corff llywodraethu ffederasiwn wedi cael cais o dan baragraff (1) os rhoddwyd neu anfonwyd y cais at gadeirydd neu glerc corff llywodraethu'r ffederasiwn.

(6)

Ymhen dim llai na phedwar diwrnod ar ddeg clir wedi i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff (3) rhaid i'r corff llywodraethu ystyried y cais a'r holl ymatebion a gafwyd gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o'r cais atynt, a rhaid iddo benderfynu–

(a)

yn ddarostyngedig i baragraff (9), a ddylai'r ysgol berthnasol adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad y dylai wneud hynny (“y dyddiad dadffedereiddio”) (“the de-federation date”);

(b)

a ddylid diddymu'r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad; neu

(c)

a ddylai'r ysgol berthnasol beidio â gadael y ffederasiwn.

(7)

Nid yw penderfyniad o'r fath yn effeithiol onid yw'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, ac oni roddwyd hysbysiad o'r cyfarfod yn unol â rheoliad 54(4).

(8)

Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (6) o fewn pum niwrnod gwaith clir i'r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

(9)

Rhaid i'r dyddiad dadffedereiddio a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn gynharach na 125 diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o benderfyniad y corff llywodraethu o dan baragraff (8).

Penderfyniad i ganiatáu i ysgol ffederal adael ffederasiwn77.

(1)

Wedi i hysbysiad gael ei roi bod corff llywodraethu ffederasiwn wedi penderfynu y dylai ysgol ffederal adael y ffederasiwn, bydd paragraffau (2) neu (3) yn gymwys.

(2)

Pan fo un o'r unig ddwy ysgol ffederal yn gadael ffederasiwn, rhaid diddymu'r ffederasiwn yn unol â Rhan 13.

(3)

Pan nad yw paragraff (2) yn gymwys,

(a)

rhaid i'r awdurdod lleol—

(i)

sefydlu corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r ysgol sy'n gadael y ffederasiwn yn unol â Rhannau 3 a 4 o'r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd; a

(ii)

dyroddi offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol honno yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir;

(b)

rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn adolygu offeryn llywodraethu'r ffederasiwn yn unol â rheoliad 42.

(4)

At ddibenion paragraff (3)(a)(ii)—

(a)

trinnir y cyfeiriad yn rheoliad 32 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at “gyrff llywodraethu” fel pe bai'n gyfeiriad at “gyrff llywodraethu dros dro”; a

(b)

trinnir y cyfeiriadau yn rheoliad 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at—

(i)

“corff llywodraethu” fel pe baent yn gyfeiriadau at “gorff llywodraethu dros dro”; a

(ii)

“llywodraethwyr sefydledig” fel pe baent yn gyfeiriadau at “lywodraethwyr sefydledig dros dro”.

Argaeledd symiau sy'n cynrychioli cyfran o gyllideb78.

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro ysgol sy'n gadael ffederasiwn wario, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno, unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o'r Ddeddf honno42 i gorff llywodraethu'r ffederasiwn mewn perthynas â'r ysgol sy'n gadael y ffederasiwn.

Ymgorffori corff llywodraethu ysgol sy'n gadael ffederasiwn79.

Ar y dyddiad dadffedereiddio, ymgorfforir corff llywodraethu dros dro yr ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn gorff llywodraethu yr ysgol honno, o dan yr enw a roddir yn offeryn llywodraethu yr ysgol.

Trosglwyddo eiddo80.

(1)

Ar y dyddiad dadffedereiddio—

(a)

mae'r holl dir ac eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad dadffedereiddio gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion yr ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i'r corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan reoliad 79 ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael eu breinio yn y corff llywodraethu hwnnw; a

(b)

mae'r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad dadffedereiddio ac a gaffaelwyd gan, neu a achoswyd i, gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion yr ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i'r corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan reoliad 79.

(2)

Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 198843 ac Atodlen 10 i'r Ddeddf honno (sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae'r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

RHAN 13DIDDYMU FFEDERASIYNAU

Diddymu ffederasiynau

81.

(1)

Os yw—

(a)

corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylid diddymu'r ffederasiwn; neu os yw

(b)

corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylai un o'r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,

rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn roi hysbysiad o'r ffaith ac o'r dyddiad diddymu arfaethedig i'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2), o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir.

(2)

Y personau sydd i'w hysbysu yw—

(a)

pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)

pennaeth y ffederasiwn a phob pennaeth ysgol ffederal;

(c)

pob aelod o'r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;

(ch)

pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn un o'r ysgolion ffederal;

(d)

pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu'r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o'r fath;

(dd)

pob undeb llafur y gwyddant bod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion; ac

(e)

pa bynnag bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

Sefydlu corff llywodraethu dros dro

82.

Ar ôl derbyn yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 81, rhaid i'r awdurdod lleol neu awdurdodau lleol perthnasol—

(a)

sefydlu corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â phob ysgol yn unol â Rhannau 3 a 4 o'r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd; a

(b)

dyroddi offeryn llywodraethu newydd ar gyfer pob ysgol yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir.

83.

At ddibenion rheoliad 82(b)—

(a)

trinnir y cyfeiriad yn rheoliad 32 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at “gyrff llywodraethu” fel pe bai'n gyfeiriad at “gyrff llywodraethu dros dro”; a

(b)

trinnir y cyfeiriadau yn rheoliad 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at—

(i)

“corff llywodraethu” fel pe baent yn gyfeiriadau at “gorff llywodraethu dros dro”; a

(ii)

“llywodraethwyr sefydledig” fel pe baent yn gyfeiriadau at “lywodraethwyr sefydledig dros dro”.

Argaeledd symiau sy'n cynrychioli cyfran o gyllideb

84.

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro pob un o'r ysgolion wario unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o'r Ddeddf honno44 i gorff llywodraethu'r ffederasiwn mewn perthynas â phob ysgol, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno.

Ymgorffori corff llywodraethu ysgol sy'n gadael ffederasiwn

85.

Ar y dyddiad diddymu ymgorfforir corff llywodraethu dros dro pob ysgol ffederal, yn gorff llywodraethu pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, o dan yr enw a roddir yn offeryn llywodraethu yr ysgol.

Trosglwyddo eiddo

86.

(1)

Ar y dyddiad diddymu—

(a)

mae'r holl dir neu eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad diddymu gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael ei freinio yn y corff llywodraethu newydd hwnnw a ymgorfforwyd o dan reoliad 85; a

(b)

mae'r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad diddymu ac a gaffaelwyd gan, neu a achoswyd i, gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac a ymgorfforwyd o dan reoliad 85.

(2)

Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 198845 ac Atodlen 10 i'r Ddeddf honno (sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae'r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

RHAN 14DIWYGIADAU AMRYWIOL I REOLIADAU

Diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir87.

(1)

Diwygir Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir fel a ganlyn—

(a)

yn is-baragraff (a) o baragraff 6, ar ôl “ddad-wneud” mewnosoder “neu os bod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas ag ef”;

(b)

yn is-baragraff (c) o baragraff 9, rhodder “adrannau 28, 29 neu 29A” yn lle “adrannau 28 a 29”;

(c)

ar ôl is-baragraff (bb) o baragraff 9 mewnosoder—

“(bc)

wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 198946 ar gyfer gofalu am blant neu ddarparu gofal dydd;

(bd)

wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 200647;”;

(ch)

yn is-baragraff (1) o baragraff 10, yn lle “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6)” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)”; a

(d)

ym mharagraff 10, yn lle is-baragraff (5) rhodder—

“(5)

At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig o dan y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.”.

(2)

Yn is-baragraff (b) o baragraff 1, o Atodlen 7 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir, ar ôl “pan fo person perthnasol yn bartner” mewnosoder “busnes”.

Diwygiad i Reoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 200188.

Yn is-baragraff (a) o baragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 200148, yn lle “ddadwneud” rhodder “neu os bod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas ag ef; neu”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru