2010 Rhif 638 (Cy.64)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 21(5) a (6), a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 19(2), (3) ac (8), 20(2), (3) a (4), 24, 25, 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7), a 214 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: