Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 638 (Cy.64)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010
Gwnaed
7 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2010
Yn dod i rym
12 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 21(5) a (6), a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 19(2), (3) ac (8), 20(2), (3) a (4), 24, 25, 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7), a 214 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1998 p.31. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).