RHAN 11GWYBODAETH A CHYLLIDO

Gwybodaeth ar gyfer corff llywodraethu ffederasiwn

73.

(1)

Yn union cyn y dyddiad ffedereiddio, rhaid i gorff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, at y diben o gynorthwyo corff llywodraethu'r ffederasiwn, baratoi adroddiad ysgrifenedig ar y camau a gymerwyd ganddo wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol.

(2)

Ar y dyddiad ffedereiddio, rhaid i holl gofnodion a phapurau corff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, gan gynnwys yr adroddiad a baratowyd o dan baragraff (1), gael eu rhoi ar gael i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

Ariannu ffederasiynau

74.

Ac eithrio fel a ddarperir gan reoliad 75, mae Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) yn gymwys i ysgolion ffederal a'u cyrff llywodraethu fel y mae'n gymwys i ysgolion eraill a gynhelir ac i'w cyrff llywodraethu.

75.

(1)

Wrth ei chymhwyso i ysgol ffederal yng Nghymru, ac eithrio ysgol ffederal y sefydlwyd corff llywodraethu dros dro ar ei chyfer yn unol â rheoliad 77 neu 82, bydd adran 5041 o Ddeddf 1998 (effaith dirprwyo ariannol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.

(2)

Yn is-adran (1), yn lle “maintained” rhodder “federated”.

(3)

Yn is-adran (2) yn lle “any amounts are made available by the authority to the governing body” rhodder “any amounts in respect of a federated school are made available by the local authority to the governing body of a federation”.

(4)

Yn is-adran (3)—

(a)

yn lle “the governing body may spend any such amounts” rhodder “the governing body of a federation may spend any amounts made available under subsection (2), or previously made available to the governing bodies of the federated schools before federation”; a

(b)

yn lle paragraff (a) rhodder—

“(a)

for any purposes of the federated school to which the amounts relate;

(ab)

for any purposes of any other federated school within the federation;

(ac)

for any purposes of the federation; or”.

(5)

Yn is-adran (4), yn lle “In subsection (3) “purposes of the school” does not include” rhodder “In subsection (3)(a), (ab) and (ac) any reference to the purposes of a federated school or a federation does not include”.

(6)

Yn is-adran (6), yn lle “the head teacher” rhodder “the head teacher of the federation or to the head teachers of federated schools”.

(7)

Yn is-adran (7), yn lle “school” rhodder “federation”.