Search Legislation

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 12YSGOLION FFEDERAL SY'N GADAEL FFEDERASIYNAU

Y weithdrefn i ysgol adael ffederasiwn

76.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gais a wneir i gorff llywodraethu ffederasiwn am i ysgol ffederal (“yr ysgol berthnasol”) adael y ffederasiwn.

(2Rhaid gwneud y cais mewn ysgrifen a rhaid ei lofnodi gan—

(a)dau neu ragor o lywodraethwyr;

(b)un rhan o bump o rieni'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(c)dwy ran o bump o'r staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(ch)yr awdurdod lleol;

(d)ymddiriedolwyr yr ysgol berthnasol; neu

(dd)corff sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

(3Rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn hysbysu'r canlynol ynghylch y cais—

(a)pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)pennaeth y ffederasiwn a phenaethiaid pob un o'r ysgolion ffederal;

(c)pan fo'r ysgol berthnasol yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol berthnasol ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu'r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o'r fath;

(ch)yr holl staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(d)pob person y gwyddant ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(dd)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau sy'n cael eu cyflogi i weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion; ac

(e)pa bynnag bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

(4Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (3) gael ei roi o fewn y cyfnod o bum niwrnod gwaith clir sy'n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y cais.

(5Ystyrir bod corff llywodraethu ffederasiwn wedi cael cais o dan baragraff (1) os rhoddwyd neu anfonwyd y cais at gadeirydd neu glerc corff llywodraethu'r ffederasiwn.

(6Ymhen dim llai na phedwar diwrnod ar ddeg clir wedi i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff (3) rhaid i'r corff llywodraethu ystyried y cais a'r holl ymatebion a gafwyd gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o'r cais atynt, a rhaid iddo benderfynu–

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (9), a ddylai'r ysgol berthnasol adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad y dylai wneud hynny (“y dyddiad dadffedereiddio”) (“the de-federation date”);

(b)a ddylid diddymu'r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad; neu

(c)a ddylai'r ysgol berthnasol beidio â gadael y ffederasiwn.

(7Nid yw penderfyniad o'r fath yn effeithiol onid yw'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, ac oni roddwyd hysbysiad o'r cyfarfod yn unol â rheoliad 54(4).

(8Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (6) o fewn pum niwrnod gwaith clir i'r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

(9Rhaid i'r dyddiad dadffedereiddio a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn gynharach na 125 diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o benderfyniad y corff llywodraethu o dan baragraff (8).

Penderfyniad i ganiatáu i ysgol ffederal adael ffederasiwn

77.—(1Wedi i hysbysiad gael ei roi bod corff llywodraethu ffederasiwn wedi penderfynu y dylai ysgol ffederal adael y ffederasiwn, bydd paragraffau (2) neu (3) yn gymwys.

(2Pan fo un o'r unig ddwy ysgol ffederal yn gadael ffederasiwn, rhaid diddymu'r ffederasiwn yn unol â Rhan 13.

(3Pan nad yw paragraff (2) yn gymwys,

(a)rhaid i'r awdurdod lleol—

(i)sefydlu corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â'r ysgol sy'n gadael y ffederasiwn yn unol â Rhannau 3 a 4 o'r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd; a

(ii)dyroddi offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol honno yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir;

(b)rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn adolygu offeryn llywodraethu'r ffederasiwn yn unol â rheoliad 42.

(4At ddibenion paragraff (3)(a)(ii)—

(a)trinnir y cyfeiriad yn rheoliad 32 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at “gyrff llywodraethu” fel pe bai'n gyfeiriad at “gyrff llywodraethu dros dro”; a

(b)trinnir y cyfeiriadau yn rheoliad 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at—

(i)“corff llywodraethu” fel pe baent yn gyfeiriadau at “gorff llywodraethu dros dro”; a

(ii)“llywodraethwyr sefydledig” fel pe baent yn gyfeiriadau at “lywodraethwyr sefydledig dros dro”.

Argaeledd symiau sy'n cynrychioli cyfran o gyllideb

78.  Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro ysgol sy'n gadael ffederasiwn wario, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno, unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o'r Ddeddf honno(1) i gorff llywodraethu'r ffederasiwn mewn perthynas â'r ysgol sy'n gadael y ffederasiwn.

Ymgorffori corff llywodraethu ysgol sy'n gadael ffederasiwn

79.  Ar y dyddiad dadffedereiddio, ymgorfforir corff llywodraethu dros dro yr ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn gorff llywodraethu yr ysgol honno, o dan yr enw a roddir yn offeryn llywodraethu yr ysgol.

Trosglwyddo eiddo

80.—(1Ar y dyddiad dadffedereiddio—

(a)mae'r holl dir ac eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad dadffedereiddio gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion yr ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i'r corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan reoliad 79 ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael eu breinio yn y corff llywodraethu hwnnw; a

(b)mae'r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad dadffedereiddio ac a gaffaelwyd gan, neu a achoswyd i, gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion yr ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i'r corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan reoliad 79.

(2Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2) ac Atodlen 10 i'r Ddeddf honno (sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae'r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

(1)

Fel y'i haddaswyd gan reoliad 75 o'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources