Search Legislation

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR

Rhiant-lywodraethwyr

11.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol â pharagraffau 3 i 8 o Atodlen 2 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgol ffederal ac sydd ei hunan yn rhiant o'r fath ar yr adeg yr etholir ef; neu

(b)a benodir yn rhiant-lywodraethwr mewn perthynas ag ysgol ffederal yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 2.

(2Mae Atodlen 2 yn gymwys ar gyfer ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.

(3Anghymhwysir person rhag ei ethol neu ei benodi yn rhiant-lywodraethwr ffederasiwn–

(a)os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod lleol;

(b)os yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu

(c)os cyflogir ef i weithio yn yr ysgol yn y ffederasiwn am fwy na 500 awr yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.

(4Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd fel rhiant-lywodraethwr pan yw'n peidio â bod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal neu'n peidio â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 2 (yn ôl fel y digwydd) onid anghymhwysir ef rywfodd arall o dan y Rheoliadau hyn.

Athro-lywodraethwyr

12.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—

(a)a etholir yn llywodraethwr yn unol ag Atodlen 3 gan athrawon ysgol mewn unrhyw ysgol yn y ffederasiwn; a

(b)sydd ei hunan yn athro neu athrawes ysgol o'r fath ar yr adeg y'i hetholir.

(2Pan fo'n peidio â gweithio yn yr ysgol, anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn athro-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

(a)os etholwyd ef yn athro-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu

(b)os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn athro-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.

Staff-lywodraethwyr

13.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol ag Atodlen 3 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan bersonau a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; a

(b)sydd ei hunan yn berson sy'n gweithio felly ar yr adeg yr etholir ef.

(2Pan fo'n peidio â gweithio mewn ysgol o fewn y ffederasiwn, anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn staff-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

(a)os etholwyd ef yn staff-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu

(b)os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn staff-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.

Llywodraethwyr awdurdod lleol

14.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod lleol” (“local authority governor”) yw llywodraethwr a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgolion ffederal.

(2Pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau hynny gytuno ymysg ei gilydd ynglŷn â phwy fydd yn penodi y cyfryw lywodraethwyr ac, os oes rhagor nag un llywodraethwr i'w penodi, ym mha gyfrannedd.

(3Anghymhwysir person rhag ei benodi neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr awdurdod lleol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr.

Llywodraethwyr cymunedol a llywodraethwyr cymunedol ychwanegol

15.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn ac—

    (a)

    sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; neu

    (b)

    sy'n berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, ag ymroddiad i lywodraethu da ac i lwyddiant y ffederasiwn;

  • ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 28.

(2Anghymhwysir person rhag ei benodi yn llywodraethwr cymunedol, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol—

(a)os yw'n ddisgybl cofrestredig yn un o'r ysgolion ffederal;

(b)os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr; neu

(c)os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod lleol.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.

Llywodraethwyr sefydledig

16.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn mewn perthynas ag ysgol ffederal benodol, ac eithrio gan yr awdurdod lleol ac—

(i)pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd â chymeriad crefyddol(1) penodol, a benodir at y diben o sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw yn yr ysgol ffederal honno;

(ii)pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd ag ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â hi, a benodir at y diben o sicrhau y cynhelir yr ysgol ffederal yn unol â'r ymddiriedolaeth honno; neu

(iii)pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol nad oes iddi gymeriad crefyddol nac ymddiriedolaeth, a benodir yn llywodraethwr sefydledig y ffederasiwn gan berson a enwyd yn flaenorol yn offeryn llywodraethu'r ysgol ffederal fel un sydd â phŵer i benodi llywodraethwyr sefydledig;

(b)ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sydd â'r hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd swydd a ddelir ganddo sy'n rhoi yr hawl honno;

(c)ystyr “dirprwy-lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio—

(i)sy'n anfodlon neu'n analluog i weithredu fel llywodraethwr;

(ii)a ddiswyddwyd o fod yn llywodraethwr o dan reoliad 35(2); neu

(iii)pan fo'r swydd y mae swydd llywodraethwr o'r fath yn deillio ohoni yn wag.

(2Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath pan fo'n peidio â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

Llywodraethwyr partneriaeth

17.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 4.

(2Anghymhwysir person rhag ei enwebu neu ei benodi yn llywodraethwr partneriaeth mewn ffederasiwn—

(a)os yw'n rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;

(b)os yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;

(c)os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr y ffederasiwn;

(ch)os yw'n aelod etholedig o awdurdod lleol perthnasol; neu

(d)os yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.

Noddwr-lywodraethwyr

18.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn yn unol ag Atodlen 5.

Llywodraethwyr cynrychiadol

19.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychiadol” (“representative governor”) yw person a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 6.

Disgybl-lywodraethwyr cyswllt

20.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” (“associate pupil governor”) yw disgybl cofrestredig a enwebir gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ffederal, ac a benodir fel y cyfryw gan y corff llywodraethu ffederal yn unol â rheoliad 7 o'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol.

(2Y nifer mwyaf o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu ffederal yw dau.

(1)

Fel y dynodir drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources