xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
11.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw person—
(a)a etholir yn unol â pharagraffau 3 i 8 o Atodlen 2 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgol ffederal ac sydd ei hunan yn rhiant o'r fath ar yr adeg yr etholir ef; neu
(b)a benodir yn rhiant-lywodraethwr mewn perthynas ag ysgol ffederal yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 2.
(2) Mae Atodlen 2 yn gymwys ar gyfer ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.
(3) Anghymhwysir person rhag ei ethol neu ei benodi yn rhiant-lywodraethwr ffederasiwn–
(a)os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod lleol;
(b)os yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu
(c)os cyflogir ef i weithio yn yr ysgol yn y ffederasiwn am fwy na 500 awr yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.
(4) Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd fel rhiant-lywodraethwr pan yw'n peidio â bod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal neu'n peidio â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 2 (yn ôl fel y digwydd) onid anghymhwysir ef rywfodd arall o dan y Rheoliadau hyn.
12.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—
(a)a etholir yn llywodraethwr yn unol ag Atodlen 3 gan athrawon ysgol mewn unrhyw ysgol yn y ffederasiwn; a
(b)sydd ei hunan yn athro neu athrawes ysgol o'r fath ar yr adeg y'i hetholir.
(2) Pan fo'n peidio â gweithio yn yr ysgol, anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn athro-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—
(a)os etholwyd ef yn athro-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu
(b)os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn athro-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.
(4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.
13.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—
(a)a etholir yn unol ag Atodlen 3 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan bersonau a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; a
(b)sydd ei hunan yn berson sy'n gweithio felly ar yr adeg yr etholir ef.
(2) Pan fo'n peidio â gweithio mewn ysgol o fewn y ffederasiwn, anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn staff-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—
(a)os etholwyd ef yn staff-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu
(b)os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn staff-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.
(4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.
14.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod lleol” (“local authority governor”) yw llywodraethwr a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgolion ffederal.
(2) Pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau hynny gytuno ymysg ei gilydd ynglŷn â phwy fydd yn penodi y cyfryw lywodraethwyr ac, os oes rhagor nag un llywodraethwr i'w penodi, ym mha gyfrannedd.
(3) Anghymhwysir person rhag ei benodi neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr awdurdod lleol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr.
15.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn ac—
sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; neu
sy'n berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, ag ymroddiad i lywodraethu da ac i lwyddiant y ffederasiwn;
ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 28.
(2) Anghymhwysir person rhag ei benodi yn llywodraethwr cymunedol, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol—
(a)os yw'n ddisgybl cofrestredig yn un o'r ysgolion ffederal;
(b)os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr; neu
(c)os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod lleol.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.
16.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn mewn perthynas ag ysgol ffederal benodol, ac eithrio gan yr awdurdod lleol ac—
(i)pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd â chymeriad crefyddol(1) penodol, a benodir at y diben o sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw yn yr ysgol ffederal honno;
(ii)pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd ag ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â hi, a benodir at y diben o sicrhau y cynhelir yr ysgol ffederal yn unol â'r ymddiriedolaeth honno; neu
(iii)pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol nad oes iddi gymeriad crefyddol nac ymddiriedolaeth, a benodir yn llywodraethwr sefydledig y ffederasiwn gan berson a enwyd yn flaenorol yn offeryn llywodraethu'r ysgol ffederal fel un sydd â phŵer i benodi llywodraethwyr sefydledig;
(b)ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sydd â'r hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd swydd a ddelir ganddo sy'n rhoi yr hawl honno;
(c)ystyr “dirprwy-lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio—
(i)sy'n anfodlon neu'n analluog i weithredu fel llywodraethwr;
(ii)a ddiswyddwyd o fod yn llywodraethwr o dan reoliad 35(2); neu
(iii)pan fo'r swydd y mae swydd llywodraethwr o'r fath yn deillio ohoni yn wag.
(2) Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath pan fo'n peidio â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni.
17.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 4.
(2) Anghymhwysir person rhag ei enwebu neu ei benodi yn llywodraethwr partneriaeth mewn ffederasiwn—
(a)os yw'n rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;
(b)os yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;
(c)os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr y ffederasiwn;
(ch)os yw'n aelod etholedig o awdurdod lleol perthnasol; neu
(d)os yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.
18. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn yn unol ag Atodlen 5.
19. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychiadol” (“representative governor”) yw person a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 6.
20.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” (“associate pupil governor”) yw disgybl cofrestredig a enwebir gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ffederal, ac a benodir fel y cyfryw gan y corff llywodraethu ffederal yn unol â rheoliad 7 o'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol.
(2) Y nifer mwyaf o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu ffederal yw dau.
Fel y dynodir drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998.