xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU FFEDERASIWN

Egwyddorion cyffredinol

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn bennu maint aelodaeth ar gyfer corff llywodraethu'r ffederasiwn, na chaiff fod yn llai na 15 llywodraethwr nac yn fwy na 25.

(2Wrth benderfynu maint aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn, rhaid peidio â chynnwys unrhyw noddwr-lywodraethwyr a disgybl-lywodraethwyr cyswllt a benodir yn unol â rheoliadau 22 i 28 nac unrhyw lywodraethwyr sefydledig ychwanegol a benodir yn unol â rheoliad 25(2)(b).

(3Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu rhaid cynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol a benodir yn unol â rheoliad 28.

(4Yn ddarostyngedig i reoliadau 22 i 28, rhaid i'r offeryn llywodraethu bennu'r niferoedd o lywodraethwyr sydd i'w hethol neu eu penodi o bob un o'r categorïau o lywodraethwyr canlynol—

(a)rhiant-lywodraethwyr;

(b)athro-lywodraethwyr;

(c)staff-lywodraethwyr;

(ch)llywodraethwyr awdurdod lleol;

(d)llywodraethwyr cymunedol;

(dd)llywodraethwyr sefydledig;

(e)llywodraethwyr partneriaeth;

(f)noddwr-lywodraethwyr;

(ff)llywodraethwyr cynrychiadol; ac

(g)llywodraethwyr cymunedol ychwanegol.

(5Os yw cymhwyso'r rheoliad hwn a rheoliadau 22 i 28 yn cynhyrchu Rhif nad yw'n gyfanrif, rhaid i'r corff llywodraethu bennu naill ai'r cyfanrif nesaf uwchlaw neu'r cyfanrif nesaf islaw (yn ôl dewis y corff llywodraethu) ar yr amod na chaiff cyfanswm nifer y llywodraethwyr fod yn uwch na'r terfyn a bennir yn y rheoliad hwn.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir yn unig

22.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir(1) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (dd), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle nifer cyfartal o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(e)pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)penodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion sefydledig neu ysgolion arbennig sefydledig yn unig

23.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion sefydledig neu ysgolion arbennig sefydledig(2) yn unig gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff–lywodraethwr;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig (neu lywodraethwyr partneriaeth, fel y bo'n briodol mewn perthynas ag unrhyw ysgol heb sefydliad); ac

(e)pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir yn unig

24.—(1Rhaid i gorff llywodraethu sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir(3) yn unig gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal i gael ei ethol neu ei benodi yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig; ac

(e)pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)penodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn unig

25.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir(4) yn unig gynnwys y canlynol—

(a)ar gyfer pob ysgol ffederal o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)y cyfryw nifer o lywodraethwyr sefydledig ag y bo ddau yn fwy na chyfanswm nifer yr holl lywodraethwyr eraill a restrir yn is-baragraffau (a) i (ch); ac

(dd)pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2Yn ychwanegol—

(a)caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn yn ychwanegol—

(i)benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(ii)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd;

(b)caiff y personau sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr sefydledig ag y bo'n ofynnol i gadw eu mwyafrif, ond dim mwy na dau.

Ffederasiwn sy'n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir

26.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys o leiaf un ysgol wirfoddol a reolir ac o leiaf un ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir a dim un categori arall o ysgol gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)o leiaf un llywodraethwr sefydledig;

(e)o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(f)pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(2Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn—

(a)benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy'n cynnwys mwy nag un categori o ysgol gan gynnwys o leiaf un ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir

27.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys—

(a)rhagor nag un categori o ysgol, a

(b)o leiaf un ysgol sefydledig, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir,

gael ei gyfansoddi yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gynnwys y canlynol—

(a)ar gyfer pob ysgol ffederal o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol;

(dd)o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig (neu lywodraethwyr partneriaeth, fel y bo'n briodol, mewn perthynas ag unrhyw ysgol heb sefydliad);

(e)o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(f)pennaeth neu bennaeth dros dro pob un o'r ysgolion ffederal oni fydd yn ymddiswyddo yn unol â rheoliad 34.

(3Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu y ffederasiwn—

(a)benodi hyd at ddau noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol

28.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys un neu ragor o'r canlynol—

(a)unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy'n ysgol gynradd; a

(b)unrhyw ysgol feithrin a gynhelir;

sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.

(2Rhaid i'r offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol ddarparu bod corff llywodraethu ffederasiwn yn cynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 22 i 27 yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol a enwebir gan y cyngor cymuned.

(3Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.

Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod a benodwyd i'r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, ddau fis o leiaf cyn y dyddiad y daw cyfnod swydd aelod a benodwyd i ben, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person sydd â'r hawl i benodi person i'r swydd dan sylw eisoes wedi hysbysu clerc y corff llywodraethu ynghylch y person a benodir neu a enwebir.

(4Pan fo unrhyw berson ac eithrio corff llywodraethu yn gwneud penodiad neu'n enwebu person i'w benodi i'r corff llywodraethu, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penodiad neu'r enwebiad i glerc y corff llywodraethu, gan nodi enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir felly.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod a benodwyd” (“appointed member”) yw—

(a)llywodraethwr sefydledig;

(b)llywodraethwr awdurdod lleol;

(c)llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);

(ch)llywodraethwr cynrychiadol;

(d)noddwr-lywodraethwr; ac

(dd)llywodraethwr partneriaeth.

Cyd-benodiadau

30.  Os yw—

(a)offeryn llywodraethu ysgol yn darparu bod un neu ragor o'r llywodraethwyr i'w penodi gan bersonau sy'n gweithredu ar y cyd; a

(b)y personau hynny yn methu â chytuno ar benodiad;

rhaid i'r penodiad gael ei wneud gan Weinidogion Cymru neu'n unol â chyfarwyddyd a roddir ganddynt.

Llywodraethwyr gormodol

31.—(1Pan fo gan ffederasiwn ragor o lywodraethwyr mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol, rhaid i ba bynnag nifer o lywodraethwyr yn y categori hwnnw sy'n ofynnol er mwyn dileu'r gormodedd beidio â dal swydd, yn unol â pharagraffau (2) a (3), oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.

(2Penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal swydd ar sail hyd eu gwasanaeth, a'r llywodraethwyr sydd â'r cyfnodau mewn swydd cyfredol byrraf fel llywodraethwyr mewn unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.

(3Pan fo angen, at ddibenion paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr allan o grŵp sy'n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir llywodraethwyr cymunedol ychwanegol fel pe baent yn gategori o lywodraethwyr ar wahân.

(1)

O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac adran 39(1) o Ddeddf 2002.

(2)

O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

(3)

O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

(4)

O fewn ystyr adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.