- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
47.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998(1) (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.
(2) Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal neu sy'n ddisgybl mewn ysgol ffederal yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is–gadeirydd corff llywodraethu'r ffederasiwn dan sylw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is–gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).
(4) Caiff y cadeirydd neu'r is–gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(5) Daw swydd y cadeirydd neu'r is–gadeirydd i ben—
(a)pan fydd yn peidio â bod yn aelod o'r corff llywodraethu;
(b)os telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal dan sylw;
(c)os diswyddir ef yn unol â rheoliad 49 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu
(ch)yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.
(6) Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'i aelodau i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.
(7) Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.
(8) Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.
(9) Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'i aelodau i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(10) Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.
48.—(1) Caiff y cadeirydd, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 59(1).
(2) Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—
(a)y ffederasiwn neu ysgol ffederal;
(b)unrhyw ddisgybl mewn ysgol ffederal, neu ei riant; neu
(c)person sy'n gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu gyfarfod o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.
(4) Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—
(a)fod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys; a
(b)na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd;
rhaid darllen y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.
49.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.
(3) Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 54(7).
(4) Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.
50.—(1) Ni fydd y rheoliad hwn yn rhagfarnu ar unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod lleol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.
(3) Rhaid i glerc y corff llywodraethu beidio â bod—
(a)yn llywodraethwr;
(b)yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu; nac
(c)yn bennaeth y ffederasiwn neu'n bennaeth ysgol ffederal.
(4) Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os yw'r clerc yn methu â bod yn bresennol yn un o'i gyfarfodydd, benodi unrhyw un o blith ei aelodau (ond nid pennaeth y ffederasiwn na phennaeth ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(5) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.
(6) Os nad oes gan yr un ysgol ffederal, ar unrhyw adeg, gyllideb ddirprwyedig(2), caiff yr awdurdod lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi un yn ei le, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu felly.
51.—(1) Rhaid i glerc y corff llywodraethu—
(a)gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 54;
(b)bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau y cynhyrchir cofnodion o'r trafodion yn unol â rheoliad 56(1);
(c)cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;
(ch)cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;
(d)rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 29 (hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 34 (ymddiswyddo), 35 (diswyddo llywodraethwyr), 47(4) (ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 54(4) (cynnull cyfarfodydd) o'r Rheoliadau hyn, a pharagraff 13 o Atodlen 7 (hysbysiad o anghymhwyso) i'r Rheoliadau hyn;
(dd)adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy'n ofynnol ar gyflawni ei swyddogaethau; ac
(e)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.
(2) Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor i'r corff llywodraethu ynglŷn â'i swyddogaethau a'i weithdrefnau.
Diwygiwyd gan adran 56 ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd ymhellach gan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno; a diwygiwyd ymhellach gan adrannau 7 ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a Rhan 2 o Atodlen 7 a Rhan 4 o Atodlen 18 i'r Ddeddf honno.
Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: