RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR
Staff-lywodraethwyr13
1
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—
a
a etholir yn unol ag Atodlen 3 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan bersonau a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; a
b
sydd ei hunan yn berson sy'n gweithio felly ar yr adeg yr etholir ef.
2
Pan fo'n peidio â gweithio mewn ysgol o fewn y ffederasiwn, anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn staff-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—
a
os etholwyd ef yn staff-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; neu
b
os cyflogir ef i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn staff-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.
4
Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.