RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR

Llywodraethwyr awdurdod lleol14

1

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod lleol” (“local authority governor”) yw llywodraethwr a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgolion ffederal.

2

Pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau hynny gytuno ymysg ei gilydd ynglŷn â phwy fydd yn penodi y cyfryw lywodraethwyr ac, os oes rhagor nag un llywodraethwr i'w penodi, ym mha gyfrannedd.

3

Anghymhwysir person rhag ei benodi neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr awdurdod lleol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr.