Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

Llywodraethwyr awdurdod lleol

14.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod lleol” (“local authority governor”) yw llywodraethwr a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgolion ffederal.

(2Pan fo'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau hynny gytuno ymysg ei gilydd ynglŷn â phwy fydd yn penodi y cyfryw lywodraethwyr ac, os oes rhagor nag un llywodraethwr i'w penodi, ym mha gyfrannedd.

(3Anghymhwysir person rhag ei benodi neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr awdurdod lleol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr.