RHAN 4CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU FFEDERASIWN
Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol28
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys un neu ragor o'r canlynol—
a
unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy'n ysgol gynradd; a
b
unrhyw ysgol feithrin a gynhelir;
sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.
2
Rhaid i'r offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol ddarparu bod corff llywodraethu ffederasiwn yn cynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 22 i 27 yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol a enwebir gan y cyngor cymuned.
3
Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.