- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod a benodwyd i'r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, ddau fis o leiaf cyn y dyddiad y daw cyfnod swydd aelod a benodwyd i ben, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r person sydd â'r hawl i benodi neu enwebu person i'r swydd honno.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person sydd â'r hawl i benodi person i'r swydd dan sylw eisoes wedi hysbysu clerc y corff llywodraethu ynghylch y person a benodir neu a enwebir.
(4) Pan fo unrhyw berson ac eithrio corff llywodraethu yn gwneud penodiad neu'n enwebu person i'w benodi i'r corff llywodraethu, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penodiad neu'r enwebiad i glerc y corff llywodraethu, gan nodi enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir felly.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod a benodwyd” (“appointed member”) yw—
(a)llywodraethwr sefydledig;
(b)llywodraethwr awdurdod lleol;
(c)llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);
(ch)llywodraethwr cynrychiadol;
(d)noddwr-lywodraethwr; ac
(dd)llywodraethwr partneriaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: