RHAN 6OFFERYN LLYWODRAETHU, STAFFIO, CYNGHORAU YSGOL A STATWS ELUSENNOL

Adolygu offerynnau llywodraethu42

1

Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.

2

Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.

3

Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.

4

Pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio ag—

a

rhoi i'r awdurdod lleol unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2); na

b

hysbysu'r awdurdod lleol o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod lleol;

oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 41(3) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.

5

Os—

a

yw y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol, pa un bynnag sy'n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â'r amrywiad a gynigir; neu

b

os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu a'r personau eraill (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a restrir yn rheoliad 41(3) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach;

rhaid i'r awdurdod lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

6

Yn achos ffederasiwn sydd â llywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a restrir yn rheoliad 41(3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Weinidogion Cymru ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Gweinidogion roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.

7

Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ffederasiwn nad oes ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod lleol—

a

rhoi gwybod i'r corff llywodraethu y rhesymau—

i

pam nad yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu neu, yn ôl fel y digwydd;

ii

pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun; a

b

rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;

a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.

8

Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn i olygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.

9

Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn rhaid i'r offeryn nodi'r dyddiad y daw'r amrywiad i rym.